Sut i Ddad-danysgrifio
Ar adegau rydym wedi derbyn cwynion gan unigolion sydd wedi tanysgrifio i'n rhestrau e-bostio (rhestr cefnogi defnyddwyr, e.e., i ofyn am gymorth gyda rhywbeth) ac yna sydd ddim eisiau derbyn rhagor o negeseuon. Weithiau mae hyn oherwydd eu bod wedi darganfod yr ateb drostynt eu hunain ac weithiau oherwydd y nifer fawr o negeseuon maen nhw wedi bod yn eu derbyn.
Mae'r dudalen hon yn disgrifio sut gallwch ddad-danysgrifio eich hun. Darllenwch hwn yn drylwyr, gan y bydd yn eich cynorthwyo i ddatrys eich problem. Os oes gennych broblemau ar ôl darllen hwn, mae cyfeiriad e-bost person cyswllt dynol i'w gael ar waelod y ddogfen.
Os nad ydych am dderbyn negeseuon o'n rhestrau e-bost mwyach, dilynwch y camau isod i ddatdanysgrifio
Rydym yn argymell i chi beidio â nodi negeseuon o'n rhestrau e-bost fel sbam am nad ydych chi eisiau eu gweld yn eich blwch derbyn mwyach. Y peth gorau i'w wneud yw i ddatdanysgrifio o'r rhestrau hynny. Fel yna, byddwch yn rhoi diwedd parhaol i'r e-byst digroeso.
Gwiriwch pa fath o danysgrifiad roeddech wedi ei ddewis yn wreiddiol
Pan fyddwch chi'n tanysgrifio i'n rhestrau e-bostio, mae dwy ffordd o dderbyn e-byst oddi ar y rhestr. Yn y modd safonol, byddwch y derbyn pob e-bost i'r rhestr unigol cyn gynted ag y caiff ei hanfon at y rhestr. Yn y modd cryno, rydych yn derbyn un neges sy'n cynnwys e-byst lluosog, naill ai unwaith y dydd (os yw'n rhestr prysurdeb isel) neu ar ôl nifer penodol o e-byst wedi'u hanfon i'r rhestr e-byst (os yw'n rhestr prysurdeb uchel).
- Os ydych yn derbyn negeseuon gyda phynciau unigol, y mae llinellau'r pwnc rhagddodi â thag fel "[libreoffice-users]" (sef tag dynodwr y rhestr), yna mae'n golygu eich bod wedi tanysgrifio yn y modd safonol.
- Os byddwch yn derbyn neges sy'n cynnwys casgliad o e-byst, gyda llinell pwnc sy'n ddechrau gyda geiriau fel "Digest of users@global.libreoffice.org" (gan nodi bod y neges yn cynnwys crynhoad o negeseuon oddi wrth ein rhestr cymorth defnyddwyr, yn yr enghraifft benodol hon), yna mae'n golygu eich wedi tanysgrifio yn y modd cryno.
Gwiriwch pa gyfeiriad e-bost rydych wedi tanysgrifio iddo yn y rhestr
Mae pobl weithiau yn sôn bod ganddynt broblemau dad-danysgrifio oddi ar restr e-bostio. Weithiau, y rheswm yw eu bod yn defnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol i'r gwreiddiol wrth anfon cais i ddad-danysgrifio. Os oes gennych gyfeiriadau e-bost lluosog ac nid ydych yn siŵr pa gyfeiriad defnyddiwyd wrth danysgrifio, edrychwch ar y pennyn neges o'r rhestr (botwm neu ddolen fel "Detail" neu "Raw Message" neu "Original Message" yn eich tudalen gwe-bost neu'r rhaglen e-bost). Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael eu rhestru yn y cofnod "Delivered-To" neu'r cofnod "Return-Path", fel dangosir isod:
Delivered-To: john.doe@example.com [...] Return-Path: <users-bounces-1234-john.doe=example.com@global.libreoffice.org>
Sylwch fod eich cyfeiriad yn y "Return-Path", wedi ei fewnblannu o fewn cyfeiriad arall, a'r "@" wedi ei ddisodli gan "=".
Ar ôl cwblhau'r ddau gam uchod, byddwch bellach yn gwybod y math o danysgrifiad a'r cyfeiriad e-bost rydych wedi tanysgrifio iddynt, a gallwch fwrw ymlaen i ddatdanysgrifio, sy'n broses dau gam:
- Anfon y cais i ddad-danysgrifio.
- Yna, cadarnhau bod y cais yn dod gennych chi, ac nad oedd yn gais ffug gan rywun arall.
Mae hyn mae'n debyg i'r broses tanysgrifio, a chyfeirir ato fel "double opt-in/out" neu "confirmed opt-in/out". Mae'r broses yn debyg iawn i'r un rydych wedi ei ddefnyddio i danysgrifio i'r rhestr yn y lle cyntaf.
Anfon y cais i ddad-danysgrifio
Os ydych chi eisiau datdanysgrifio o'r rhestr e-bostio users@global.libreoffice.org (ein rhestr cefnogaeth defnyddiwr), er enghraifft, anfonwch neges e-bost i users+unsubscribe@global.libreoffice.org (os oedd ydych wedi tanysgrifio yn y modd safonol) neu at users+unsubscribe-digest@global.libreoffice.org (os oedd ydych wedi tanysgrifio yn y modd cryno).
Nid oes rhaid i'r neges gynnwys unrhyw beth yn y llinell pwnc neu yng nghorff y neges. Os yw eich gwasanaeth gwe-bost neu'r rhaglen e-bost yn eich rhybuddio eich bod ar fin anfon neges wag, gallwch anwybyddu'r rhybudd a bwrw ymlaen ac anfon y neges.
Fodd bynnag, nid yw o bwys os ydych wedi teipio testun yn y llinell pwnc y neges neu'r corff. Bydd ein meddalwedd rhestr bostio yn anwybyddu unrhyw gynnwys ac ni fydd unrhyw un yn darllen y neges. Defnyddir y cyfeiriad e-bost cyrchfan yn unig i gydnabod eich bwriad i ddatdanysgrifio.
I ailadrodd yr hyn a ddywedwyd gennym uchod, gwnewch yn siŵr ichi anfon y neges hon o'r un cyfeiriad e-bost gafodd ei ddefnyddio i danysgrifio i'r rhestr bostio, fel arall ni fydd y camau dad-danysgrifio'n gweithio.
Mae'r broses yr un peth ar gyfer ein holl restrau, ac angen i chi ddilyn y camau hyn ar bob rhestr rydych chi am ddatdanysgrifio ohonynt.
Cadarnhau'r cais
Yn fuan ar ôl anfon y cais dad-danysgrifio (fel arfer ychydig eiliadau yn ddiweddarach - chwiliwch am e-bost newydd, ac edrychwch yn eich ffolder sbam os nad oes golwg o unrhyw beth), byddwch yn derbyn neges yn gofyn am gadarnhad o'r cais i ddatdanysgrifio. Bydd y neges yn edrych fel hyn:.
Subject: Confirm unsubscribe from: users@global.libreoffice.org Hi, this is the mlmmj program managing the mailinglist users@global.libreoffice.org To confirm you want the address john.doe@example.com removed from this list, please send a reply to <long email-address> Your mailer may automatically reply to this address when you hit the reply button. [...]
Gadarnhewch eich bwriad drwy ymateb i'r neges. Mae'n gam gorfodol i ateb i'r neges cadarnhau, fel arall bydd eich tanysgrifiad ddim yn dod i ben a byddwch yn parhau i dderbyn negeseuon oddi ar y rhestr.
Ar ôl i chi anfon y neges cadarnhau, byddwch yn cael un neges arall sy'n cadarnhau eich bod wedi eich datdanysgrifio. Hwn ddylai hynny fod y neges olaf i chi dderbyn.
Os nad yw'r cyfarwyddiadau hyn yn gweithio
Gwiriwch eich ffolder sbam. Weithiau bydd y cais cadarnhau yn mynd i'r ffolder "sbam" neu'r ffolder "post swmpus", heb i chi sylwi arno ac yna meddwl pam nad yw'r e-bost wedi cyrraedd.
Rhowch amser iddo. Mae rhai gweinyddion post yn defnyddio technoleg o'r enw "greylisting" sy'n gallu oedi negeseuon e-bost hyd at sawl awr yn yr achos gwaethaf. Os nad ydych wedi derbyn unrhyw neges yn gofyn am gadarnhad ar ôl tua phedair awr, ac rydych wedi gwirio eich ffolder sbam, yna mae'n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o'i le.
Os nad yw eich holl ymdrechion i danysgrifio wedi gweithio, yna - fel y dewis olaf un - anfonwch neges i postmaster@documentfoundation.org gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- rhestrau rydych eisiau datdanysgrifio ohono,
- y cyfeiriad rydych chi wedi ceisio datdanysgrifio ohono.
- a gwybodaeth fanwl am y problemau gawsoch.
Ysgrifennwch dim ond at y cyfeiriad uchod. Peidiwch ag ysgrifennu at aelodau unigol o'r tîm gweinyddol, a pheidiwch â'u cynnwys i'r copi.
Cofiwch gynnwys/anfon ymlaen yr atebion a gafwyd gennych o'r system rhestr e-bostio, os ydych wedi derbyn rhai. Peidiwch â gofyn i gael ei datdanysgrifio o'r "holl restrau". Fydd hyn ddim yn gweithio. Rydym yn cynnal tua 100 o restrau e-bostio, yn ogystal â rhestrau trydydd parti mae rhai'n meddwl, ar gam, eu bod yn perthyn i ni, felly heb wybodaeth am ba restrau rydych yn cyfeirio atynt, does dim modd i ni gynnig llawer o help i chi. Os ydych yn ansicr, anfonwch gopi o'r negeseuon e-bost digroeso i ni, fel y gallwn ymchwilio iddynt.
Diolch ichi am eich cydweithrediad, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Dilynwch Ni