Fersiynau datblygu

Fersiynau Cyn eu Ryddhau (Release Candidates)

Mae'r rhain yn fersiynau cyn eu rhyddhau - nid ydym yn argymell eu defnyddio ar gyfer defnydd ffurfiol. Ddiddordeb mewn cyfrannu? Darllenwch y nodiadau ryddhau ac ewch i'n tudalen Profwyr.

SYLW: Mae'r adeiladiadau hyn mewn ffurfweddiad i'w ryddhau a bydd yn cymryd lle eich gosodiad LibreOffice cyfredol!
Mae'n bosib y byddwch eisiau defnyddio gosodiad paralel i atal hyn a pharhau i allu profi a gweithio gyda'r fersiwn yma.

Mynd i'r gweinydd cyn ryddhau a dewis eich fersiwn.

Adeiladau Nosweithiol

Mae adeiladau nosweithiol yn fersiynau datblygu uwch o LibreOffice ac maent yn cynnig cipluniau rheolaidd o'r ddatblygiad ar gyfer eu profi. Mae'r rhain yn dod heb unrhyw sicrwydd eu bod yn gweithio'n iawn.

Mynd i'r gweinydd adeiladau nosweithiol.

Gwirydd Sillafu Cymraeg

Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer LibreOffice.

Cod Ffynhonnell

Mae ein holl god ffynhonnell ar gael ar git:

  • Clôn: $ git clone git://anongit.freedesktop.org/libreoffice/core # (pori)
  • Clôn (http): $ git clone http://anongit.freedesktop.org/git/libreoffice/core.git # slower

Mae mwy o gyfarwyddiadau ar y dudalen hon. Gwelwch ein trwyddedau yma.