Nodweddion Newydd

Gwelliannau'r Modd Tywyll • Tablau Data mewn siartiau • Trin nodau tudalen yn well

LibreOffice 7.5 yw'r diweddariad mawr diweddaraf, gyda nifer o nodweddion newydd – gwyliwch y fideo (Saesneg) am drosolwg ac yna sgroliwch i lawr am ragor o fanylion...

 

Gwelliannau i'r modd tywyll

Gweld y rhyngwyneb braidd yn llachar? Gwell gweithio yn y tywyllwch? Mae gan LibreOffice 7.5 welliannau sylweddol i'w fodd tywyll, diolch i'n cymuned Cynllunio.

Tablau data mewn siartiau

Pan fyddwch yn creu siart, gallwch nawr hefyd gynnwys data tabl, ar gyfer cynrychiolaeth ychwanegol o'r data sy'n cael ei gynnwys.

Diweddariadau i Impress a Draw

Mae Impress nawr yn cefnogi fideo wedi'i docio ar gyfer siapiau cyfryngau, ac mae arddulliau tablau ychwanegol wedi eu cynnwys ( ynghyd a'r gallu'u i'w haddasu).

A llawer mwy...

Hwb i'r perfformiad, gwelliannau cydnawsedd, ac atgyweiriadau. Am restr lawn o nodweddion newydd yn LibreOffice 7.5, ewch i'r nodiadau ryddhau.


Mae LibreOffice yn Feddalwedd Rhydd na fyddai'n bosibl heb y The Document Foundation a'i gyfranwyr gwirfoddol. Ar gyfer y rhyddhad hwn hoffwn ddiolch yn arbennig i'r datblygwyr isod am eu gwaith a'u hymdrechion mawr o fewn ein nodiadau ryddhau. Gallwch chi gyfrannu tuag at LibreOffice a phroject y Document Liberation project hefyd – gw. sut mae cyfrannu.