Templedi ac Estyniadau

Mae modd ehangu swyddogaeth LibreOffice ymhellach gydag estyniadau sydd ar gael i'w llwytho i lawr o Ganolfan Estyniadau LibreOffice. Mae estyniadau yn ategolion i'r meddalwedd gallech eu gosod yn ychwanegol i'r hyn sydd yn feddalwedd pecyn craidd LibreOffice. Maent yn ychwanegu swyddogaethau eraill i'r casgliad meddalwedd, naill ai i un rhaglen benodol (Writer, Calc, Impress, ...) neu i'r cyfan.

Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch chi neu os ydych eisiau medru creu a golygu dogfennau'n haws ac yn fwy effeithiol. Gyda LibreOffice mae'n bosib defnyddio pob math o dempledi ar gyfer anghenion penodol. Gwelwch Canolfan Templedi LibreOffice i bori a llwytho templedi i lawr ar gyfer eich anghenion.