Rhestrau E-bostio

Rydym yn cynnal nifer o restrau e-bostio byd-eang a lleol, sef ein prif ffordd o gynnal trafodaeth ar hyn o bryd. Mae'r wybodaeth ar sut mae tanysgrifio i'r rhestrau hyn isod.

I danysgrifio i un o'r rhestrau, anfonwch e-bost gwag at y cyfeiriad yn y llinell "Tanysgrifio", aros am ateb (daw nôl fel rheol o fewn ychydig eiliadau - cadwch lygad ar yr e-bost) ac yna dilyn y cyfarwyddiadau sydd yn y neges. (Mae "gwag" yn golygu nad yw'r neges angen unrhyw destun yn y linell "Pwnc", er bydd dim gwahaniaeth os oes yna destun yno.)

Mae gwybodaeth ar sut i ddad-danysgrifio o'r rhestr yn cael ei gynnwys yn yr e-bost cadarnhau ac mae ar waelod pob neges sy'n cael ei gofnodi. (Os oes angen manylion sut i ddad-tanysgrifio o restr e-bostio, cliciwch yma.)

Gallwch ddarllen ein rhestrau e-bostio yn hawdd a hwylus drwy rhyngwyneb fforwm porth Nabble LibreOffice. Os oes gennych ddiddordeb mewn darllen ac anfon negeseuon, gwelwch y Nodiadau Arbennig ar ddiwedd y dudalen.

Cofiwch: bydd y cyfan o'r hyn fyddwch yn eu cofnodi ar ein rhestrau cyhoeddus, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw fanylion personol arall sydd o fewn eich negeseuon, yn cael eu harchifo'n gyhoeddus ac nid oes modd eu dileu. Felly cofnodwch yn gall.

Rhestrau E-bostio Lleol

Mae'r rhestrau isod i gyd yn Saesneg, on mae gennym hefyd rhestrau e-bostio ar gyfer ein cymunedau rhyngwladol, mewn amryw o ieithoedd. Am restrau e-bostio lleol yn eich iaith chi, ewch i dabl rhestrau lleol e-bostio ar ein wici.

Rhestrau E-bostio Byd-Eang

Nodiadau Arbennig

Yn y rhestr uchod, yn ogystal â phorth Nabble LibreOffice, mi welwch fod yna nifer o ffyrdd eraill i ddarllen ein harchif o restrau e-bost: "Archif", "Mail-Archive.com" a "GMANE".

Yn achos rhyngwyneb GMANE, gallwch hefyd anfon neges at y rhestr; i wneud hyn rhaid darparu eich cyfeiriad e-bost (i ddiogelu ein rhestrau rhag sbam). Mae gennych y dewis o fewngofnodi i dderbyn eich neges yn unigol (y dewis mwyaf cyffredin), neu i ddewis i'w derbyn mewn sypiau fel crynodeb dyddiol (sy'n gallu edrych fel ei fod yn gwrthddweud defnyddio GMANE).

Gall rhai tanysgrifwyr achos arbennig fod eisiau gallu anfon neges i restr ond peidio derbyn negeseuon gan y rhestr (cyfranwyr cymunedol sy'n anfon cyhoeddiadau, e.e.). Yn yr achos yma, tanysgrifiwch i'r fersiwn "nomail" o'r rhestr gan atodi -nomail i'r cyfeiriad tanysgrifio arferol. Er enghraifft, i wneud hyn i'r rhestr trafodaethau cyffredinol, byddai cyfeiriad y tanysgrifiad yn edrych fel hyn: discuss+subscribe-nomail@documentfoundation.org.

Os oes angen gwybodaeth fanwl arnoch am ddad-tanysgrifio o un o'n rhestrau e-bostio, cliciwch yma.