Writer

Mae gan Writer yr holl nodweddion sydd eu hangen mewn rhaglen prosesu geiriau a chyhoeddi bwrdd gwaith modern. Mae'n ddigon rhwydd ei ddefnyddio ar gyfer memo sydyn, ond yn ddigon pwerus ar gyfer creu llyfrau cyfan gyda rhestrau cynnwys, diagramau, mynegeion a mwy. Byddwch chi'n rhydd i ganolbwyntio ar eich neges, tra bo Writer yn ei wneud i edrych yn dda.

Fydd eich dogfennau fyth yn edrych cystal â phan fyddan nhw wedi eu creu gyda LibreOffice. Gallwch ddefnyddio a gosod y ffontiau sydd ar eich cyfrifiadur a gosod a chyfaddasu arddulliau ar gyfer bron pob rhan o'ch dogfen. Gall y nodwedd AwtoGywiro gwirio eich sillafu wrth i chi deipio (mae hefyd yn hawdd ei atal) a dal gwallau teipio a sillafu wrth gyfansoddi. Mae Writer gyda'r gallu i drin nifer o ieithoedd gwahanol o fewn yr un ddogfen.

Mae dewiniaid o fewn y meddalwedd yn ei gwneud yn hawdd cynhyrchu dogfennau safonol fel llythyron, negeseuon ffacs, traethodau, agendâu a chofnodion, a'i gwneud hi'n hawdd cyflawni tasgau cymhleth fel cyfuno post. Teipiwch yn fwy effeithiol gydag AwtoGwblhau, sy'n gallu cynnig geiriau ac ymadroddion cyffredin i gwblhau'r hyn rydych wedi cychwyn ei deipio, gan ddefnyddio'r geiriadur mewnol a drwy sganio dogfennau rydych wedi eu hagor. Mae templedi dogfennau yn cael eu cynnwys yn awtomatig : does dim angen creu dogfennau cymhleth, maen nhw'n gynwysedig!