Base

Mae Base yn flaen bwrdd gwaith llawn nodweddion wedi ei gynllunio i fodloni anghenion ystod eang o ddefnyddwyr. Ond mae Base hefyd yn darparu ar gyfer defnyddwyr uwch a gofynion mentrau mawrion ac mae'n cynnig gyrwyr cynhenid ar gyfer y peiriannau cronfa ddata aml ddefnyddiwr sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin: MySQL/MariaDB, Adabas D, MS Access a PostgreSQL. Hefyd, mae'r gefnogaeth gynhenid i yrwyr safonol JDBC- a ODBC yn caniatáu i chi gysylltu â bron a bod unrhyw beiriant cronfa ddata cyfredol hefyd.

Mae Base wedi ei ffurfweddu gyda pheiriant cronfa ddata berthynol HSQL llawn. Mae'n ateb delfrydol ar gyfer anghenion llai cymhleth ac ar gyfer unigolion sydd angen system sy'n hawdd ei deall a'i weithredu: mae'r data'n cael ei gadw o fewn y ffeil Base, ac rydych hefyd yn cael cefnogaeth gynhenid ar gyfer ffeiliau gwastad dBase. Mae Base yn darparu dewiniaid i gynorthwyo defnyddwyr sy'n newydd i gynllunio cronfeydd data (neu sy'n newydd i Base) i greu tablau, ymholiadau, ffurflenni ac adroddiadau ac mae'n cynnwys diffiniadau tabl parod ar gyfer tracio asedau, cwsmeriaid, archebion gwerthiant, derbynebau a llawer o eitemau defnyddiol tebyg.

Mae Base yn lawer iawn mwy nag offeryn i'w ddefnyddio ar ben ei hun: mae wedi ei integreiddio'n dda i'r pecyn o raglenni eraill o fewn LibreOffice: gall Base ddarparu data llyfrau cyfeiriadau ar gyfer cyfuno post yn Writer gan ddefnyddio protocol LDAP neu fformatau amrywiol llyfrau cyfeiriad eraill. Hefyd, gall Base gael ei ddefnyddio ar gyfer creu ystodau data cysylltiedig o fewn ffeiliau Calc, ar gyfer dadansoddiad peilot data neu ar gyfer siartiau.