Rheolaeth

Y "Document Foundation"

Mae'r Document Foundation yn cael ei arwain a'i redeg gan ein haelodau. Ein cenhadaeth yw cefnogi a meithrin datblygiad a hefyd cynrychioli'r project LibreOffice. Gallwch ddarllen ein maniffesto yma. Rheolir y sefydliad gan nifer o gyrff a swyddogion:

  • Bwrdd Cyfarwyddwyr (neu'r "BC"). Ein Bwrdd Cyfarwyddwyr yw prif weinyddiaeth projectau a thimau'r sefydliad. Aelodau'r bwrdd yw cynrychiolwyr cyfreithiol ac all-gyfreithiol y sefydliad.
  • Pwyllgor Aelodaeth (neu "PA"). Cenhadaeth y PA yw gweinyddu ceisiadau ac adnewyddiadau aelodaeth a goruchwylio etholiadau aelodau i'r BC.
  • Bwrdd Ymddiriedolwyr (neu "Aelodau"). Mae'r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cynnwys yr holl bobl sy'n cyfrannu yn weithgar at brojectau'r sefydliad. I gael eu hadnabod fel Aelodau, rhaid i gyfranwyr ateb gofynion a diffiniwyd yn ein statudau a gwneud cais am aelodaeth gan ddefnyddio ein ffurflen aelodaeth.

Mae rhai endidau i gynorthwyo'r BC i hyrwyddo projectau'r sefydliad, ond heb fod yn gyrff ffurfiol o'r sefydliad:

  • Mae'r Pwyllgor Llywio Peirianneg (neu "PLlP") yn rhoi canllaw technegol ar faterion strategol ac yn damcaniaethol bydd yn cynnwys peirianwyr gorau'r Gymuned.
  • Mae'r Bwrdd Ymgynghori (neu "BY") yn darparu fforwm i gyrff sy'n rhoi lefel sylweddol o gymorth, yn ariannol neu mewn modd arall, i gyfarfod gyda'r BC a rhoi cyngor.

Gall y BC benodi swyddogion ar gyfer gwaith dyddiol neu weinyddol y sefydliad.

Project LibreOffice

Mae'r project LibreOffice yn cael ei redeg gan y gymuned yn ogystal â gan gyrff y Document Foundation, megis y Pwyllgor Llywio Peirianneg a'r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae'r project LibreOffice yn gweithio pob dydd trwy dimau o gyfranwyr sy'n cydlynu gwahanol dasgau'r datblygiad, lleoleiddio, dylunio, hyrwyddo, dogfennaeth, profi ac ehangu LibreOffice. Mae'r timau hyn o hyd yn agored i fwy o gyfranwyr, felly mae modd i chi ymuno â ni heddiw.