Math

Math yw golygydd fformiwlâu LibreOffice, y mae modd ei chychwyn o fewn eich dogfennau testun, taenlenni, cyflwyniadau a lluniadau, i'ch galluogi i fewnosod fformiwlâu mathemateg a gwyddonol sydd wedi eu fformatio'n berffaith. Gall eich fformiwlâu gynnwys ystod eang o elfennau, o ffracsiynau, termau gydag esbonyddion ac indecsau, integralau a swyddogaethau mathemategol hyd anghydraddoldebau, systemau o hafaliadau a matricsau.

Gallwch gychwyn Math un ai fel rhaglen ar ei phen ei hun yn uniongyrchol o Ganolfan Cychwyn LibreOffice neu'n uniongyrchol o raglenni LibreOffice; Writer, Calc, Impress a Draw.