Gofynion y System

 

 

Windows

Mae'r gofynion meddalwedd a chaledwedd gosod LibreOffice ar system Windows fel â ganlyn:

  • Microsoft Windows 10, Windows 8, Windows 7 SP1, Windows Server 2012 a Windows Server 2008;
  • Cyfrifiadur Pentium neu well (Pentium III, Athlon neu'n fwy diweddar);
  • 256 Mb RAM (argymhellir 512 Mb RAM neu fwy);
  • Hyd at 1.5 Gb o le ar ddisg caled;
  • Cydraniad 1024x768 (argymhellir cydraniad uwch), gydag o leiaf 256 lliw.

Bydd angen hawliau gweinyddwr ar gyfer y broses osod. Argymhellwn eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'ch system a'ch data cyn gosod neu dynnu unrhyw feddalwedd.

Ar gyfer rhai nodweddion o'r feddalwedd - ond nid y mwyafrif - mae angen Java. Mae angen Java ar gyfer Base.

 

 

Apple - Mac OS X

Mae'r gofynion meddalwedd a chaledwedd gosod LibreOffice ar system Apple Mac OSX fel â ganlyn:

  • Mac OS X 10.6 (Snow Leopard) neu well;
    (ers LibreOffice 4.1 - Mac OS X 10.4 Tiger ar gyfer fersiynau hyd at 4.0.x)
  • Prosesydd Intel;
    (Sylw: ers LibreOffice v.4.1 nid oes cefnogaeth ar gyfer PowerPC);
  • 512 Mb RAM;
  • Hyd at 800 Mb o le ar ddisg caled;
  • Cydraniad 1024x768 (argymhellir cydraniad uwch), gydag o leiaf 256 lliw.

Ar gyfer rhai nodweddion o'r feddalwedd - ond nid y mwyafrif - mae angen Java. Mae angen Java ar gyfer Base.

Argymhellwn eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'ch system a'ch data cyn gosod neu dynnu unrhyw feddalwedd.

Os ydych yn rhedeg MacOS X 10.8 (Mountain Lion), gall fod anawsterau gyda Gatekeeper newydd Apple. Os ydych yn cael anawsterau, efallai bydd yr erthygl hon yn ddefnyddiol. Ateb haws yw gosod y feddalwedd a'i rhedeg am y tro cyntaf, cliciwch i'r dde (control-click) ar eicon LibreOffice.app  a dewis Open o'r ddewislen cyd-destun. Bydd yn gofyn a ydych wir am gychwyn y rhaglen, cadarnhewch i'w rhedeg.

 

 

GNU/Linux

Fel rheol gyffredinol, argymhellwn eich bod yn gosod LibreOffice drwy'r dull y mae eich dosbarthiad penodol o Linux (megis Canolfan Feddalwedd Ubuntu, yn Ubuntu Linux) yn ei hargymell. Dyma'r ffordd hawsaf i wneud gosodiad sydd wedi ei lunio'n benodol ar gyfer eich system. Mae'n bosib iawn y bydd LibreOffice wedi cael ei osod yn barod wrth i chi osod system weithredu Linux ar eich cyfrifiadur.

Mae gosodwyr, wedi eu darparu gan gymuned LibreOffice, ar gael ar gyfer defnyddwyr ag anghenion arbennig neu achosion anghyffredin.

Mae'r gofynion meddalwedd a chaledwedd gosod LibreOffice ar system Linux fel â ganlyn:

  • Cnewyllyn Linux fersiwn 2.6.18 neu well;
  •  glibc2 fersiwn  2.5 neu well;
  • gtk fersiwn 2.10.4 neu well;
  • Cyfrifiadur Pentium neu well (Pentium III, Athlon neu'n fwy diweddar);
  • 256 Mb RAM (argymhellwn 512 Mb RAM neu fwy);
  • Hyd at 1.55 Gb o le ar ddisg caled;
  • X Server gyda chydraniad 1024x768 (argymhellwn gydraniad uwch), gydag o leiaf 256 lliw.
  • Gnome 2.16 neu well, gyda phecynnau gail 1.8.6 ac at-spi 1.7 (mae eu hangen ar gyfer offer technoleg gynorthwyol [AT]), neu ryngwyneb cymharus cyfatebol (Megis KDE, ymhlith eraill).

Ar gyfer rhai nodweddion o'r feddalwedd - ond nid y mwyafrif - mae angen Java. Mae angen Java ar gyfer Base.

Argymhellir eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'ch system a'ch data cyn gosod neu dynnu unrhyw feddalwedd.