Y Tîm Dogfennau

Rydym yn gyson yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn cyfrannu tuag at broject dogfennau LibreOffice. Y Tîm Dogfennau sy'n cynhyrchu'r dogfennau ynghylch y pecyn LibreOffice. Rydym yn datblygu pob canllaw ein hunain.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd ar ein rhestrau e-bostio ac ar y wiki.
Mae tipyn go lew o'r gwaith hefyd yn digwydd ar wefan ODFAuthors

Pa fath o destun ydym yn gweithio arnyn nhw?

  • Awduro
  • Mynegeio
  • Creu lluniau sgrin
  • Prawf ddarllen
  • Ymchwil
  • a llawer iawn mwy. 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cyfieithu ein dogfennau cyfredol.
Cysylltwch â'ch project iaith gynhenid yn uniongyrchol neu'r Tîm Dogfennau os nad yw'ch iaith ar y rhestr.