Diogelwch

Os ydych wedi dod i'r dudalen hon yn chwilio am gefnogaeth, anfonwch unrhyw gwestiwn nad yw'n berthnasol i wall diogelwch i users@global.libreoffice.org.

Mae modd cysylltu â'r timau sy'n ymwneud â diogelwch y sail cod yn officesecurity@lists.freedesktop.org, mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr nifer o werthwyr a'u projectau cysylltiedig. Dim ond ar gyfer adrodd ar wallau diogelwch y feddalwedd y mae defnyddio'r rhestr hon. Os yw eich rhaglen wrth firysau'n nodi fod LibreOffice yn cynnwys firws, mae hyn bron yn sicr yn gadarnhad ffug. Gwiriwch gyda gwerthwr rhaglen wrth firws arall a/neu anfonwch adroddiad gwall atyn nhw cyn tarfu ar y rhestr diogelu. Hefyd, ystyriwch brynu raglen gwrth firws mwy effeithiol.

Yn eich adroddiad, nodwch y wybodaeth ganlynol:

  1. Ym mha fersiwn a welwyd y broblem diogelwch
  2. Os yw'n ddibynnol ar blatfform, pa un
  3. Prawf o'r digwyddiad, os yn bosibl

Mae rhestr hysbysiadau diogelwch i'w gweld yma.