Windows

Cyn cychwyn ar y broses osod, gwiriwch anghenion y system ar gyfer gosod LibreOffice ar system Windows.

Defnydd gan Lywodraethau a Chwmnïau Mawr: Gwiriwch y dudalen ar gyfer manylion darparu a mudo.

Does dim rhaid i chi ddadosod unrhyw fersiwn blaenorol o LibreOffice. Os yw LibreOffice eisoes wedi ei osod ar eich system, bydd eich holl dewisiadau'n cael eu cadw yn y fersiwn newydd.

1. Llwytho ffeil gosod LibreOffice i lawr a dechrau'r dewin gosod

Wedi clicio i lwytho ffeil gosod LibreOffice i lawr o'r gwefan, dewiswch i'w gadw mewn ffolder neu ar eich bwrdd gwaith. Agorwch y ffeil wedi iddo orffen llwytho i lawr. Mae'n bosib y gwelwch rhybudd diogelwch yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am ei redeg. Ymhen rhai eiliadau, cewch groeso gan y dewin osod.

Croeoso
Nodyn: Mae'n bosib fydd dewin gosod fersiynau gwahanol
yn amrywio ychydig, ond mae'r broses yr un fath.

Pwyswch “Nesaf”. 

 

2. Rhowch eich enw ac enw eich corff.

Byddwch yn gweld blwch deialog yn eich gwahodd i rhoi eich enw ac enw eich corff. Mae'n gwbl ddewisol. Rhowch eich enw neu gadewch y blwch yn rhydd. Gallwch hefyd ddewis p'un ai y bydd pob defnyddiwr o'ch cyfrifiadur yn cael mynediad at y gosodiad hwn o LibreOffice (hwn yw'r dewis rhagosodedig).

Pan yn barod, pwyswch “Nesaf”.

235userinfo

 

3. Dewiswch y math o osod

Cewch ddewis o osod y cyfan - sef holl gydrannau'r meddalwedd a'r iaith sy'n cyd-fynd â gosodiadau'ch system - neu i addasu'r gosodiad.

Addasu

Gallech dewis gosod "Y Cyfan", ond rhag ofn nad ydych wedi gosod eich system i'r Gymraeg, mae'n well dewis "Addasu" er mwyn sicrhau bod y rhyngwyneb Cymraeg yn cael ei osod.

Pwyswch "Nesaf".

 

4. Dewis ieithoedd a chydrannau i'w gosod

Cliciwch y symbol + i ymestyn y rhestr o ieithoedd rhyngwyneb sydd ar gael. 

Dewis ieithoedd rhyngwyneb

Dewis rhyngwyneb Cymraeg

Sgroliwch i lawr y rhestr nes y gwelwch "Cymraeg". Os oes croes goch wrth y Gymraeg, mae angen clicio arno a'i newid i'r eicon gyriant cyfrifiadur ("Bydd y nodwedd hon yn cael ei gosod o'r disg caled lleol"). Mae'r Saesneg fel arfer hefyd wedi ei ddewis. Os fydd angen newid iaith rhyngwyneb y meddalwedd yn y dyfodol, gallech ddewis ieithoedd ychwanegol o'r rhestr yn yr un modd. Gallech hefyd dad-ddewis ieithoedd na fydd angen arnoch.

Uwchben y rhestr ieithoedd rhyngwyneb, mae rhestr cydrannau dewisol, gan gynnwys geiriaduron. Gallech wirio a dewis neu ddad-ddewis y rhain yn yr un modd a'r ieithoedd rhyngwyneb. Bydd y nodweddion mwyaf cyffredin wedi eu dewis, felly os nad ydych yn sicr beth ydyn nhw, gorau yw gadael nhw fel y maen nhw.

Rydych hefyd gyda'r dewis o newid lleoliad gosod LibreOffice. Fel arfer, nid oes angen newid hwn.

Wedi gwneud eich dewisiadau, pwyswch “Nesaf”.

 

5. Dweud wrth LibreOffice os ydych am iddo agor dogfennau Microsoft Office

Mae Windows fel arfer wedi ei rhagosod fel bod rhai mathau o ffeiliau yn cael eu hagor gyda Microsoft Office. Mae'r cam yma yn rhoi'r dewis i chi newid hyn fel bod ffeiliau yn cael eu hagor gan LibreOffice yn lle.

Mathau o ffeiliau

Nodwch y mathau o ddogfennau rydych am eu hagor yn LibreOffice gan roi tic yn y blychau wrth eu hochr. Yna, cliciwch "Nesaf".

 

6. Dewis dulliau haws o agor LibreOffice

Yn y cam nesaf, cewch ddewis dau beth i fedru agor LibreOffice yn fwy cyfleus.

Agor cyfleus

Gan greu cyswllt cychwyn ar y bwrdd gwaith gallech ddod o hyd iddo yn hawdd ac yn gyflym pan fyddwch eisiau agor y rhaglen.

Os fyddwch yn defnyddio'r rhaglen yn aml, gorau yw dewis i lwytho LibreOffice wrth gychwyn y system. Bydd LibreOffice wedi ei lwytho ac yn barod i agor yn gyflym unrhyw bryd fydd ei angen arnoch. Os fyddwch yn defnyddio LibreOffice dim ond yn achlysurol, gorau yw peidio â dewis hwn.

Wedi nodi eich dewisiadau, pwyswch "Gosod".

 

7. Mae'r dewin gosod yn gwneud ei waith

Mae'n bosib gwelwch ddeialog yn gofyn ichi ganiatáu i'r dewin gosod y feddalwedd. Wedi ichi ei ganiatáu, bydd y dewin yn brysur am rhai funudau.

735installing

 

8. Mae LibreOffice bron yn barod!

Pan fydd y dewin wedi gwneud ei waith, bydd y blwch deialog olaf yn agor i'ch hysbysu fod  LibreOffice nawr wedi ei osod.

Gorffen

Pwyswch “Gorffen”. Nid oes hyd yn oed angen ail-ddechrau eich cyfrifiadur!

9. Yn olaf, Gwirydd Sillafu Cymraeg

Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer LibreOffice.