Fersiynau cludadwy a delweddau DVD

LibreOffice Portable

Mae LibreOffice Portable yn fersiwn cludadwy gyda holl nodweddion LibreOffice wedi'u pecynnu fel app cludadwy, fel y gallwch fynd â'ch holl ddogfennau a phopeth sydd angen arnoch i weithio gyda nhw ble bynnag rydych yn mynd. Mae wedi ei becynnu yn fformat PortableApps.com fel y gall weithio gyda phlatfform PortableApps.com a'i ddiweddarwr awtomatig a'i siop apps, gweithio gyda dewislenni cludadwy eraill, neu i weithio ar ei ben ei hun o yriant lleol, USB neu gwmwl. Ac mae'n cod agored ac am ddim.

Mae'r fersiwn All Languages (MultilingualAll) yn cynnwys pob iaith sy'n cael eu cefnogi gan LibreOffice

Mae LibreOffice wedi'i becynnu ar gyfer defnydd cludadwy gan PortableApps.com gyda chaniatâd a chymorth gan y Document Foundation. Am fwy o wybodaeth, pob fersiwn a chymorth, ymwelwch ag http://libreofficeportable.org.

 

Gwirydd Sillafu Cymraeg

Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer LibreOffice.