Adborth

Oes gennych chi gwestiwn? Wedi canfod gwall?

Mae project LibreOffice wrth ei fodd yn clywed gan ddefnyddwyr fel chi. Mae eich sylwadau a'ch adroddiadau gwall yn ein cynorthwyo i wella ein cynnyrch a'i gwneud y rhaglen orau o'i bath! Ydych chi eisiau...

Gofyn Cwestiwn

Ansicr am nodwedd o fewn LibreOffice? Gofynnwch am gymorth gan ddefnyddwyr profiadol ar wefan Ask LibreOffice.

Creu adroddiad gwall

Yn cael anhawster penodol, meddalwedd yn chwalu neu'n rhedeg yn araf ar ôl diweddaru? Adroddwch ar wall i'n datblygwyr.

Anfon cais am welliant

Colli nodwedd neu feddwl am nodwedd newydd fyddai'n gwneud LibreOffice hyd yn oed yn well nag ydyw heddiw? Gadewch i ni wybod!

Cymuned yw LibreOffice: ymunwch â ni!

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd ar ôl i wall gael ei adrodd? Eisiau dysgu sut i dracio'r union gyflwyniad sydd wedi torri eich hoff nodwedd? Mae'r Tîm QA (quality assurance) bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni.
Mae modd cysylltu drwy:

Does dim angen profiad. Cyn belled bod gennych gyfrifiadur a chysylltiad â'r we, byddwn yn hapus i'ch cael fel aelod!