Impress

Mae Impress yn rhaglen penigamp ar gyfer creu cyflwyniadau amlgyfrwng effeithiol. Mae golygu a chreu cyflwyniadau yn broses hyblyg, diolch i foddau golygu a golwg gwahanol: Normal (ar gyfer golygu cyffredinol), Amlinellol (ar gyfer trefnu ac amlinellu eich cynnwys testun), Nodiadau (ar gyfer gweld a golygu'r nodiadau sydd ynghlwm â'r sleid), Taflen (ar gyfer cynhyrchu deunydd papur), a'r Trefnydd Sleidiau (ar gyfer golwg lluniau bach sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i a threfnu eich sleidiau'n sydyn).

Mae gan Impress ystod gynhwysfawr o offer lluniadu a deiagramio hawdd eu defnyddio i ychwanegu steil a soffistigeiddrwydd i'ch cyflwyniad. Yn ychwanegol, mae modd bywiogi eich cyflwyniad gydag animeiddio ac effeithiau byw i'ch cyflwyniad. Mae'r offeryn Fontworks yn caniatáu i chi greu delweddau 2D a 3D deniadol o destun. Mae Impress yn eich galluogi i adeiladu a rheoli golygfeydd 3D gan gynnwys amrywiaeth eang o wrthrychau a chydrannau.

Pan ddaw hi'n amser cyflwyno eich gwaith, mae gennych fodd Sioe Sleidiau pwerus sy'n rhoi rheolaeth lawn i chi ar sut mae eich sleidiau'n cael eu dangos a'u trefn, fel eich bod chi'n gallu canolbwyntio ar eich cynulleidfa (pa sleidiau sy'n cael eu dangos, newid gyda llaw neu wedi eu hamseru; y pwyntydd yn weladwy neu beidio; llywiwr yn weladwy neu beidio...).

Mae Impress yn cynnal dangosyddion lluosog ac mae'r Estyniad Consol Cyflwynydd, sy'n gynwysedig, y cynnig hyd yn oed mwy o reolaeth dros eich cyflwyniad sleidiau, fel y gallu i weld y sleidiau nesaf, gweld eich nodiadau a rheoli'r amserydd tra bod y gynulleidfa'n edrych ar y sleid gyfredol.

Mae gan Impress ystod gynhwysfawr o offer lluniadu a deiagramio hawdd eu defnyddio i ychwanegu steil a soffistigeiddrwydd i'ch cyflwyniad. Mae modd arbed hyd yn oed mwy o amser drwy lwytho i lawr templedi o storfa templedi LibreOffice.