Pwy ydym ni?
Mae LibreOffice yn feddalwedd sy'n cael ei greu a'i arwain gan gymuned ac mae hefyd yn broject dan y sefydliad dim er elw, y Document Foundation.
Defnyddwyr fel chi sy'n datblygu LibreOffice. Maent yn credu yn egwyddorion Meddalwedd Rhydd ac Am Ddim ac mewn rhannu eu gwaith gyda'r byd heb gyfyngiadau. Yn greiddiol i'r egwyddorion hyn mae'r pedair prif ryddfraint a daliadau Maniffesto'r Ddegawd Nesaf [pdf] gan y Document Foundation.
Credwn y dylai defnyddwyr gael y rhyddid i redeg, copïo, dosbarthu, astudio, newid a gwella'r meddalwedd rydym yn ei rannu. Rydym yn cynnig y casgliad o raglenni LibreOffice i'w lwytho i lawr am ddim, ond mae Meddalwedd Rhydd yn bennaf ac yn bwysicaf oll yn fater o ryddid, nid pris. Rydym yn ymgyrchu am y rhyddfreiniau hyn gan ein bod yn credu fod pawb yn eu haeddu.
Rydym yn ceisio dileu'r rhaniad digidol a grymuso pawb fel dinasyddion llawn, cefnogi a diogelu ieithoedd gwahanol, ac osgoi meddalwedd perchnogol a chaethiwed rhai fformatau. Rydym yn gweithio i gyflawni ein hamcanion drwy:
- ddarparu mynediad dilyffethair i'n hoffer swyddfa am ddim
- annog cyfieithu, dogfennu a chefnogi'r feddalwedd yn iaith y defnyddiwr
- hyrwyddo a chyfrannu wrth greu a datblygu safonau agored a Meddalwedd Rydd drwy brosesau agored a thryloyw
Er bod aelodau'n cymuned yn dod o wahanol gefndiroedd, rydym i gyd yn gwerthfawrogi dewis personol a thryloywder, sy'n trosi'n ymarferol i gydnawsedd ehangach, gwell defnydd ac yn osgoi caethiwo'r defnyddiwr i unrhyw un cynnyrch. Rydym yn credu y gall Meddalwedd Rhydd ddarparu cynnyrch o well ansawdd, dibynadwyaeth, diogelwch a hyblygrwydd na'r dewisiadau perchnogol eraill.
Calon project LibreOffice yw ein cymuned, hebddi fyddai gennym ni ddim mo'r adnoddau i barhau i ddatblygu ein meddalwedd. Mae'r brwdfrydedd a'r ymroddiad y mae pob unigolyn yn ei gyfrannu i'r gymuned yn arwain at ganlyniadau cydweithio sy'n llawer gwell na'r disgwyl. Gyda dwsinau o swyddogaethau hanfodol o fewn y project, rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni yn ein gwaith a'n cynorthwyo i wneud LibreOffice yn hysbys ac ar gael i bawb.
Mae Statudau'r Document Foundation, gafodd eu datblygu gan ein haelodau cymunedol, yn ein harwain yn ein gwaith ac yn annog aelodau newydd i gyfrannu mewn ffordd sydd o fudd i'r holl gymuned yn ogystal â nhw eu hunain. Drwy'r defnydd o drwyddedau haelfraint (copyleft) megis y GNU Lesser General Public License, Mozilla Public License, a'r Creative Commons Attribution-ShareAlike License, rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich hawliau fel datblygwyr a chynhyrchwyr cynnwys.
Diddordeb mewn gweld pwy sydd eisoes wedi cyfrannu tuag at broject LibreOffice? Ewch i'n tudalen Diolchiadau. Gobeithio y cawn weld eich enw yno cyn bo hir!
I ddysgu rhagor am sut mae'r gymuned yn diogelu eich hawliau a sut mae'r Document Foundation, dim er elw, yn bugeilio projectau eraill fel LibreOffice, gwelwch ein Polisi Preifatrwydd a'n Gwybodaeth Gyfreithiol.
Mae LibreOffice yn feddalwedd sy'n cael ei greu a'i arwain gan gymuned a hefyd yn broject dan y sefydliad dim er elw, y Document Foundation.
Dilynwch Ni