Nodweddion Newydd

LibreOffice 25.8 yw ein fersiwn sefydlog diweddaraf, sy'n cynnwys nodweddion newydd, gwelliannau perfformiad, a mwy...
Cadw trac o'ch gwaith
Mae'r Llywiwr yn Writer nawr yn dangos cynghorion pan fyddwch yn hofran dros bennawd, gan roi trosolwg sydyn o gyfrif geiriau a nodau mewn adrannau o'ch dogfennau.
Gwneud mwy gyda thaenlenni
Mae llawer o nodweddion newydd wedi'u hychwanegu i Calc, gan gynnwys CHOOSECOLS/ROWS, DROP, EXPAND, HSTACK, TAKE, TEXTAFTER/BEFORE/SPLIT, TOCOL, TOROW, VSTACK, a WRAPCOLS/ROWS.
Agor ffeiliau'n gynt
Mae LibreOffice 25.8 yn agor llawer math o ddogfennau'n gynt - yn arbennig ffeiliau XLSX sy'n cynnwys llawer o wrthrychau graffigol a dogfennau Writer sy'n defnyddio sgriptiau de i'r chwith.
A llawer iawn rhagor
Rhestr lawn o nodweddion newydd yn LibreOffice 25.2, ewch i'r nodiadau ryddhau.
Mae LibreOffice yn Feddalwedd Rhydd na fyddai'n bosibl heb y The Document Foundation a'i gyfranwyr gwirfoddol. Ar gyfer y rhyddhad hwn hoffwn ddiolch yn arbennig i'r datblygwyr isod am eu gwaith a'u hymdrechion mawr o fewn ein nodiadau ryddhau. Gallwch chi gyfrannu tuag at LibreOffice a phroject y Document Liberation project hefyd – gw. sut mae cyfrannu.
Dilynwch Ni