Beth yw LibreOffice?
Mae LibreOffice yn gasgliad o feddalwedd swyddfa grymus iawn. Bydd ei ryngwyneb glân a'i offer pwerus yn helpu i ryddhau eich creadigrwydd a'ch gwneud yn fwy cynhyrchiol.
Gyda chwe rhaglen, LibreOffice yw'r casgliad cod agored rhydd mwyaf pwerus sydd ar gael:
- Writer - y prosesydd geiriau
- Calc - rhaglen taenlenni
- Impress - ar gyfer cyflwyniadau pwerus
- Draw - ein rhaglen lluniadu a siartio
- Base - gweithio gyda chronfeydd data
- Math - ar gyfer pob math o fathemateg
Bydd eich dogfennau'n edrych yn dda ac yn broffesiynol, beth bynnag eu pwrpas: llythyrau, traethodau, taflenni, adroddiadau ariannol, cyflwyniadau masnachu, dyluniadau a diagramau technegol.
Mae LibreOffice yn gydnaws â nifer fawr o fformatau dogfennau megis Microsoft® Word, Excel, PowerPoint a Publisher. Ond mae LibreOffice yn mynd ymhellach drwy eich galluogi i ddefnyddio'r safon fodern newydd, yr OpenDocument Format (ODF).
Yn ogystal â'r nodweddion niferus sy'n dod fel ag y mae, mae modd estyn LibreOffice yn hawdd drwy ddefnyddio estyniadau pwerus. Gallwch ddefnyddio nodweddion a thempledi pellach ar ein rhaglenni unigol.
Mae LibreOffice yn feddalwedd cod agored rhydd. Mae ei ddatblygiad yn agored i dalent a syniadau newydd, mae ein meddalwedd yn cael ei brofi gan gymuned fawr a brwdfrydig, ac mae modd i chi ymuno a dylanwadu ar ei ddatblygiad i'r dyfodol.
· Llwythwch LibreOffice i lawr yn eich iaith chi a gweld sut bydd LibreOffice yn gallu cynyddu eich creadigrwydd bob dydd!
· Gweld sut mae LibreOffice yn cymharu â Microsoft® Office 2013
· Mae LibreOffice ar gael mewn nifer fawr o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg!
· Darllenwch ein nodiadau rhyddhau
Dilynwch Ni