Seilwaith
Mae'r tîm seilwaith yn gyfrifol am weithredu, cynnal, profi ac ar adegau ddatblygu'r offer a'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol ar gyfer prosiect LibreOffice a'r gymuned. Mae prosiect LibreOffice a'r Document Foundation yn cymryd balchder mawr ar ein gallu i dibynnu ar ein seilwaith eu hunain yn hytrach na defnyddio adnoddau endidau eraill. Oherwydd hyn, mae'r tîm seilwaith yn rhan hollbwysig o'r prosiect.
Ein tasgau gweithredol:
- gwefan prosiect LibreOffice a'r gymuned (sef y wefan hon);
- gwefan y Document Foundation (http://www.documentfoundation.org);
- adnoddau wiki LibreOffice a'r Document Foundation (http://wiki.documentfoundation.org);
- offer cydweithio prosiect lleoleiddio a chreu dogfennau LibreOffice (ein gwefan Pootle yn http://translations.documentfoundation.org, gwefan Litmus QA yn https://tcm.documentfoundation.org, ...);
- gweinydd gwe'r prosiect annibynnol, ODFAuthors (http://www.odfauthors.org), rydym yn rhannu eu gweledigaeth o hyrwyddo'r safon safonol rhyngwladol ODF (Open Document Format), prif fformat seilwaith pecyn a phroject LibreOffice;
- Seilwaith gwasanaeth e-bost y Document Foundation (yn bennaf ein rhestrau e-bostio â'n rhyngwyneb rhestrau e-bostio, Nabble) ;
- Systemau datblygu cod project LibreOffice a chydweithio (Git, ...).
Rhan o'n rôl yw edrych am ffyrdd i wella ac ychwanegu at ein hoffer a'n seilwaith, er mwyn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol y Document Foundation a'r gymuned LibreOffice, yn fewnol ac yn allanol..
Os ydych am gymryd rhan, ymunwch â'n rhestr e-bostio'r wefan a chyflwyno eich hun ac ymweld â wiki tîm y wefan.
Dilynwch Ni