Pwy ydym ni?

Drwy glicio’r botwm isod rydych chi’n cytuno i weld cynnwys o wefan trydydd parti (YouTube) ac i’ch data personol gael ei drosglwyddo a’i brosesu fel sy’n cael ei nodir ym mholisi preifatrwydd YouTube.

Mae LibreOffice yn feddalwedd sy’n cael ei yrru a’i ddatblygu gan y gymuned, ac mae’n broject o’r sefydliad nid-er-elw, The Document Foundation. Mae LibreOffice yn feddalwedd cod agored a rhad ac am ddim, wedi’i seilio’n wreiddiol ar OpenOffice.org (neu OpenOffice), a dyma’r project OpenOffice.org olynydd sy’n cael ei ddatblygu fwyaf.

Mae LibreOffice yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddwyr sydd, yn union fel chi, yn credu yn egwyddorion Meddalwedd Rhydd ac mewn rhannu eu gwaith gyda’r byd mewn ffyrdd sydd ddim yn gyfyngol. Wrth wraidd yr egwyddorion hyn mae’r pedwar rhyddid hanfodol ac egwyddorion [Next Decade Manifesto] y The Document Foundation(https://www.documentfoundation.org/media/tdf-manifesto.pdf) [PDF].

Credwn y dylai defnyddwyr gael y rhyddid i redeg, copïo, dosbarthu, astudio, newid a gwella’r feddalwedd rydyn ni’n ei ddosbarthu. Er ein bod yn cynnig llwytho i lawr di-gost o gyfres o raglenni LibreOffice, mae Meddalwedd Rhydd yn fater o ryddid, nid pris. Rydym yn ymgyrchu dros y rhyddid hyn oherwydd rydym yn credu fod pawb yn eu haeddu.

Rydym yn ceisio dileu’r rhaniad digidol a grymuso pawb fel dinasyddion llawn, cefnogi cadwraeth mamauieithoedd, ac osgoi meddalwedd perchnogol a fformat cloi i mewn. Rydym yn gweithio i gyflawni ein nodau trwy

Er bod aelodau ein cymuned yn dod o lawer o wahanol gefndiroedd, rydym i gyd yn gwerthfawrogi dewis personol a thryloywder, sy’n cyfieithu’n ymarferol i gydnawsedd ehangach, mwy o ddefnyddioldeb, a dim cloi defnyddiwr cyffredin i un cynnyrch. Credwn y gall Meddalwedd Rhydd ddarparu gwell ansawdd, dibynadwyedd uwch, mwy o ddiogelwch, a mwy o hyblygrwydd na dewisiadau amgen perchnogol.

Y gymuned y tu ôl i LibreOffice yw calon y project, hebddo fyddai gennym ni ddim yr adnoddau i barhau i ddatblygu ein meddalwedd. Mae’r angerdd a’r ysgogiad y mae pob unigolyn yn dod i’r gymuned yn arwain at ddatblygiad cydweithredol sy’n aml yn rhagori ar ein disgwyliadau ein hunain. Gyda dwsinau o rolau gwahanol ond hanfodol yn y project, [rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni yn ein gwaith] (/improvement-it.md) ac yn ein helpu i wneud LibreOffice yn hysbys ac yn hygyrch i bawb.

Mae statudau y Document Foundation, a ddatblygwyd gan aelodau ein cymuned ein hunain, yn llywio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn annog aelodau newydd i gyfrannu mewn ffordd sydd o fudd i’r gymuned gyfan yn ogystal â nhw eu hunain. Drwy ddefnyddio trwyddedau copyleft megis GNU Lesser General Public License, Mozilla Public License, a Creative Commons Attribution-ShareAlike License, rydym yn ymrwymo i ddiogelu eich hawliau fel datblygwyr a chrewyr cynnwys.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld pwy sydd eisoes wedi cyfrannu at broject LibreOffice? Ewch i’n tudalen Diolchiadau. Rydym yn gobeithio gweld eich enw yno yn fuan!

I ddysgu mwy am sut mae’r gymuned yn diogelu eich hawliau a sut mae’r sefydliad dim-er-elw The Document Foundation yn bugeilio projectau fel LibreOffice, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a’n Gwybodaeth Gyfreithiol.

Dysgu mwy am ein cymuned

Edrychwch ar ein map cymunedol i ddod o hyd i aelodau cymunedol LibreOffice yn eich ardal chi!