LibreOffice mewn busnes
Mae LibreOffice gan The Document Foundation yn wych ar gyfer defnyddwyr cartref a swyddfeydd bach. Nid yw TDF yn darparu cymorth technegol ar gyfer y feddalwedd; gall defnyddwyr gael cymorth gan eraill ar ein rhestrau postio a Gofynnwch i LibreOffice.
Mae LibreOffice hefyd yn wych ar gyfer ysgolion, sefydliadau addysgol ac ymchwil, a sefydliadau mawr; yn yr achosion hyn, rydym yn argymell yn gryf defnyddio fersiynau LibreOffice Enterprise gan un o’n partneriaid ecosystem. Yn y modd hwnnw, gallwch gael Cytundebau Lefel Gwasanaeth hirdymor (SLA), cymorth personol, cymorth technegol, a nodweddion newydd arferol. Ar ben hynny, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bartneriaid ecosystem yn llifo yn ôl i broject LibreOffice, o fudd i’r gymuned ehangach o ddefnyddwyr LibreOffice.
Dyw LibreOffice Enterprise ddim yn cyfeirio at un cynnyrch, ond teulu o gynhyrchion wedi’u hadeiladu ar LibreOffice gyda’r manteision ychwanegol sy’n cael ei grybwyll uchod.
Mudiadau a hyfforddiant
Mae’r Document Foundation, yr endid dim-er-elw y tu ôl i LibreOffice, yn cynnig rhaglen ardystio helaeth (https://www.documentfoundation.org/certification-program/). Mae gweithwyr proffesiynol ardystiedig yn gallu darparu gwasanaethau proffesiynol gwerth ychwanegol i dyfu ecosystem LibreOffice, ac mae ganddyn nhw yr amcan o ymestyn cyrhaeddiad y gymuned i’r byd corfforaethol, trwy gynnig cydnabyddiaeth i CIOs a rheolwyr TG yn unol ag offrymau perchnogol. Yn yr un modd, mae [Ymgynghorwyr Ymfudo Ardystiedig LibreOffice] (https://www.documentfoundation.org/gethelp/migrators/) yn unigolion sydd wedi profi eu gallu i gynllunio a rheoli defnydd LibreOffice naill ai mewn gweinyddiaeth gyhoeddus neu mewn menter. Maen nhw’n gallu gweithredu’r [Protocol Ymfudo sy’n cael ei ddarparu gan The Document Foundation] (https://www.documentfoundation.org/assets/Certification/tdf-migrationprotocol-v2.pdf) (neu broses fudo debyg).
LibreOffice - y dewis iawn ar gyfer eich busnes
Gyda’i sylfaen god aeddfed, set nodweddion gyfoethog, cefnogaeth gref ar gyfer safonau agored, cyfatebiaeth rhagorol ac opsiynau cymorth hirdymor gan bartneriaid ardystiedig, mae fersiynau LibreOffice Enterprise o’r gyfres yn atebion delfrydol i fusnesau sydd am adennill rheolaeth o’u data a rhyddhau eu hunain rhag cloi gwerthwr.