Storfeydd Apiau

Gallwch lwytho LibreOffice i lawr am ddim yn uniongyrchol o’n gwefan, ar gyfer Windows, macOS a Linux. Fodd bynnag, os hoffech ei gael trwy’r Microsoft Store neu’r Mac App Store, gallwch wneud hynny yma:

Mae’r fersiynau hyn yn feddalwedd am ddim (fel mewn cod agored) ond mae tâl bach i dalu am yr ymdrech o roi meddalwedd yn y storfeydd apiau, ac i helpu i ddatblygu’r feddalwedd (ac adeiladu ein cymunedau).

Fersiynau datblygu

Fersiynau Rhyddhau

To download release candidates, use the download customizer while selecting the option “”. If the option is not visible, no release candidates are available.

Fersiynau cyn-ryddhau yw’r rhain ac nid ydym yn argymhell eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu. Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu? Darllenwch y nodiadau rhyddhau ac ewch i’n tudalen brofi.

Mae %1 fersiynau RC mewn ffurfweddiad rhyddhau a byddan nhw’n disodli eich gosodiad LibreOffice presennol!

Efallai yr hoffech ddefnyddio gosod paralel i atal hynny, a dal i allu profi a gweithio gyda’r fersiwn hon.

Alternatively, access the Pre-releases server and pick the version of your choice there.

Fersiynau nosweithiol

Mae fersiynau nosweithiol yn fersiynau datblygu uwch o LibreOffice ac maen nhw’n cynnig cipluniau datblygu rheolaidd sy’n cael eu defnyddio at ddibenion profi. Daw’r rhain heb unrhyw warantau o gwbl.

Mynediad i’r gweinydd adeiladu Nightly yma.

Rhestr gyfleus o brif fersiynau.

Cod ffynhonnell a SDK

Mae ein holl god ffynhonnell wedi’i gynnal yn git. Run

git clone https://git.libreoffice.org/core

i’w glonio (pori).

Mwy o gyfarwyddiadau yn adran datblygu ein wici. Gwiriwch ein trwyddedau.

Llwythwch y SDK i lawr ar ffurf archif

LibreOffice_26.2.3_Linux_x86-64_rpm_sdk.tar.gz

(Torrent, pob dolen drych)

Llwythwch y cod ffynhonnell i lawr ar ffurf archif

libreoffice-26.2.3.2.tar.xz

(Torrent, pob dolen drych)

libreoffice-dictionaries-26.2.3.2.tar.xz

(Torrent, pob dolen drych)

libreoffice-help-26.2.3.2.tar.xz

(Torrent, pob dolen drych)

libreoffice-translations-26.2.3.2.tar.xz

(Torrent, pob dolen drych)

Hen fersiynau

Mae fersiynau hŷn o LibreOffice (heb eu diweddaru mwyach!) ar gael yn yr archif.

LibreOffice Impress Remote

Mae’r rhaglen LibreOffice Impress Remote yn caniatáu ichi ryngweithio â’ch cyflwyniad o’ch ffôn clyfar neu oriawr glyfar. Mae’r rhaglen ar gael ar gyfer oriorau clyfar Android, iOS a Pebble.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch i’r dudalen wici.

LibreOffice ar gyfer Android ac iOS

Mae’r Document Foundation yn cynnig ap darllen ar gyfer dogfennau LibreOffice, gyda chefnogaeth golygu arbrofol, ar gyfer dyfeisiau Android:

I olygu dogfennau, mae cynnyrch sy’n seiliedig ar LibreOffice ar gael mewn storfeydd apiau gan Collabora, un o’n datblygwyr ardystiedig ac aelodau ecosystem:

LibreOffice Portable

Mae LibreOffice Portable yn fersiwn gludadwy llawn nodweddion o LibreOffice ar gyfer Windows – gan gynnwys prosesydd geiriau, taenlen, offeryn cyflwyno, pecyn lluniadu a chronfa ddata – wedi’i becynnu fel ap cludadwy, felly gallwch chi fynd â’ch holl ddogfennau a phopeth sydd ei angen arnoch i weithio gyda nhw ble bynnag yr ewch. Mae wedi’i becynnu ar ffurf PortableApps.com felly gall weithio gyda phlatfform PortableApps.com a’i ddiweddarydd awtomatig a’i storfa apiau, gweithio gyda bwydlenni cludadwy eraill, neu weithio ar ei ben ei hun o yriant USB, cwmwl neu leol. Ac mae’n cod agored ac yn hollol rhad ac am ddim.

Mae’r fersiwn Pob Iaith (MultilingualAll) yn cynnwys pob iaith sy’n cael ei gefnogi gan LibreOffice

Mae LibreOffice yn cael ei becynnu ar gyfer defnydd symudol gan PortableApps.com gyda chaniatâd a chefnogaeth The Document Foundation. Er mwyn llwytho’r pecynnau i lawr a chael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth, ewch i this page (am y LibreOffice Portable diweddaraf) a this page (ar gyfer LibreOffice Portable blaenorol).

LibreOffice trwy Chocolatey

Llwythwch LibreOffice i lawr o Chocolatey.

LibreOffice ar ffurf Flatpak

Mae Flatpak yn ffordd o ddosbarthu delweddau o raglenni Linux sy’n rhedeg ar ystod eang o wahanol ddosbarthiadau, ac yn rhedeg yno mewn ffordd ddiogel.

Mae fersiynau Flatpak o LibreOffice Latest yn cael eu darparu ar Flathub (dolen uniongyrchol i lwytho org.libreoffice.LibreOffice.flatpakref).

Ychydig o bethau i’w nodi:

LibreOffice fel Snap

Mae Snaps yn gyflym i’w gosod, yn hawdd i’w creu, yn ddiogel i’w rhedeg, ac maen nhw’n diweddaru’n awtomatig ac yn drawsactif felly mae’r rhaglen bob amser yn ffres a heb fod byth yn torri. Eu nod yw gweithio ar unrhyw ddosbarthiad neu ddyfais, o ddyfeisiau IoT i weinyddion, byrddau gwaith i ddyfeisiau symudol.

Gosod LibreOffice o’r storfa

Mae fersiynau cyfredol o LibreOffice ar gael yn storfa Snap fel fersiynau 64-bit.

Gallwch chi osod y snap LibreOffice drwy ymweld â:

https://snapcraft.io/libreoffice

Neu osod o’r llinell orchymyn:

sudo snap install libreoffice

Os nad oes y gorchymyn snap ar gael, efallai y bydd angen i chi osod snapd yn gyntaf.

Rhedeg y fersiwn LibreOffice wedi’i osod fel snap

Ar ôl ei osod, mae modd dod o hyd i’r fersiwn o LibreOffice a osodwyd trwy snap yn y ddewislen Rhaglenni.

Fel arall, mae modd ei gychwyn gyda’r gorchymyn:

/snap/bin/libreoffice

Mae’n debyg y bydd hepgor y llwybr llawn yn cychwyn y fersiwn o LibreOffice a osodwyd gan y dosbarthiad yn lle hynny, os oes un.

Mae rhagor o wybodaeth am Snap ar gael ar wefan Snap.

Codiwch taw dim ond yn y fersiwn Snap y mae angen rhoi gwybod am wallau sy’n ymddangos i Launchpad Ubuntu.

LibreOffice fel AppImage

Mae AppImage yn fformat rhaglen gludadwy ar gyfer Linux sy’n caniatáu i ddefnyddwyr redeg rhaglenni ar fersiynau o Linux sy’n datblygu’n barhaus (e.e. Arch, openSUSE Tumbleweed) a rhai sefydlog (e.e. Ubuntu LTS, Red Hat Enterprise Linux), yn hawdd iawn, heb yr angen i’w gosod na phoeni am ddibyniaethau. Mae AppImages yn bwndelu’r holl ffeiliau sydd eu hangen ar raglen i redeg (e.e. llyfrgelloedd, cyfieithiadau, eiconau, ffontiau) nad ydyn nhw efallai eisoes yn bresennol ar system y defnyddiwr.

Mae LibreOffice AppImage yn fersiwn gludadwy o LibreOffice ar gyfer Linux y mae modd ei rhedeg o unrhyw leoliad (e.e. gyriant lleol, USB, CD, rhannu rhwydwaith) ar bob dosbarthiad Linux poblogaidd, gan gynnwys eu CDs byw. Mae LibreOffice AppImage ar gael mewn tair fersiwn - Sylfaenol, Safonol, a Llawn - sy’n cefnogi set wahanol o ieithoedd.

Mae’r fersiwn Sylfaenol yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer yr iaith rhagosodedig, Saesneg (UDA).

Llwythwch i lawr y Fersiwn Sylfaenol Diweddaraf

Llwythwch i lawr y Fersiwn Sylfaenol

Mae’r fersiwn Safonol yn cynnwys cefnogaeth i Saesneg (UDA a Phrydain Fawr), Arabeg, Tsieinëeg (Symledig a Thraddodiadol), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneg, Coreeg, Portiwgaleg (Brasil a Phortiwgal), Rwsieg, a Sbaeneg.

Llwythwch y Fersiwn Safonol i lawr

Llwythwch y Fersiwn Safonol i lawr

Mae’r fersiwn Llawn yn cynnwys pob iaith sy’n cael ei gefnogi gan LibreOffice.

Llwythwch y Fersiwn Llawn Diweddaraf i lawr

Llwytho’r Fersiwn Llawn Blaenorol i lawr

Rhagor o fersiynau

Mae AppImages LibreOffice ychwanegol i’w cael drwy bori’r storfa LibreOffice AppImage.

Rhedeg yr AppImage o’r GUI

Gwyliwch sut.

Rhedeg yr AppImage o’r Terfynell

  1. Agorwch eich rhaglen terfynell, os nad yw eisoes ar agor
  2. Ewch i leoliad yr AppImage
  3. Gwnewch yr AppImage yn weithredadwy
    $ chmod a+x LibreOffice\*.AppImage
  1. Ei redeg
    $ ./LibreOffice\*.AppImage

Nodiadau

LibreOffice Online

Ciplun o LibreOffice Online WriterCiplun o LibreOffice Online Calc

Beth yw LibreOffice Online?

Mae LibreOffice Online yn wasanaeth gweinydd sydd wedi’i adeiladu o brif god project LibreOffice, sy’n darparu golygu gweledol cydweithredol o ystod o fathau o ddogfennau mewn porwr gwe. Dyw’n cynnwys dim math o system ffeiliau. Er mwyn bod yn gwbl weithredol, mae’n rhaid ei integreiddio â darpariaeth mynediad ffeiliau a dilysu o stac meddalwedd sylfaenol.

Ar gyfer unrhyw beth mwy na defnydd achlysurol mae angen ei ddefnyddio hefyd gan ystyried cydbwyso llwyth a materion graddio eraill. O’r herwydd, mae modd ystyried LibreOffice Online yn dechnoleg alluogi ar gyfer cwmwl cyhoeddus Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd neu gwmwl preifat mentrau a sefydliadau mawr, pan gaiff ei integreiddio - er enghraifft - â datrysiad rhannu ffeiliau menter neu feddalwedd grŵp.

Pam na allwch chi ddarparu gwasanaeth wedi’i gynnal?

Dyw’r Document Foundation ddim yn bwriadu datblygu ac ariannu datrysiad cwmwl tebyg i gynhyrchion presennol gan Google a Microsoft, oherwydd byddai hyn yn gofyn am ddewis ac integreiddio’r technolegau eraill sydd eu hangen ar gyfer eu defnyddio - rhannu ffeiliau, dilysu, cydbwyso llwyth ac yn y blaen - sydd, ar gyfer LibreOffice bwrdd gwaith, yn rhan o’r system weithredu sy’n ceael ei ddarparu gan y defnyddiwr. Byddai hyn yn dwf sylweddol o ran cwmpas ac nid yn unol â chenhadaeth wreiddiol y project. Felly, mae’r dasg yn cael ei adael i ddefnyddwyr mawr, ISPs a darparwyr datrysiadau cwmwl cod agored, ac mae sawl opsiwn eisoes ar gael ar y farchnad. Byddai TDF yn croesawu darparu cynnig LibreOffice Ar-lein cyhoeddus gan elusen arall.

Pam nad yw hyn yn cael ei gefnogi?

Dyw TDF ddim yn cynnig cymorth i ddefnyddwyr terfynol ar gyfer unrhyw un o’r projectau y mae’n eu cynnal. Mae cymorth cydweithredol i ddefnyddwyr terfynol ar gael yn ask.libreoffice.org.

Gan fod LibreOffice Online angen integreiddio â llawer o dechnolegau eraill i ganiatáu defnyddio, ni fydd The Document Foundation yn cynnal ffeiliau deuaidd ar gyfer defnydd menter. Hyd yn oed pe bai’n rhesymol dewis pob elfen o bentwr defnyddio ymlaen llaw, byddai darparu ffeiliau deuaidd cynhyrchu menter yn creu disgwyliadau na oes modd eu cyflawni gan gefnogaeth wirfoddol.

Fodd bynnag, mae fersiynau o’r cod diweddaraf sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cartref ac ar gyfer cyfrannu at ddatblygiad - sy’n cael ei annog - ar gael. Mae TDF yn awyddus i osgoi sefyllfaoedd lle mae fersiwn anaddas yn cael ei defnyddio ar raddfa fawr, felly pan gaiff ei ddefnyddio mewn sefyllfa a fyddai’n debygol o awgrymu sefyllfa fenter - mwy na 10 dogfen gydamserol a/neu fwy nag 20 cysylltiad - bydd LibreOffice Online yn dangos rhybudd amlwg “heb ei gefnogi” a dolen i’r dudalen hon, tra’n parhau i weithredu.

Ciplun sgrin yn dangos rhybudd am fersiwn heb ei chefnogi o LibreOffice Online

Rydym yn annog eraill sy’n darparu ffeiliau deuaidd heb gefnogaeth sy’n deillio o LibreOffice i ddilyn y patrwm hwn.

Sut ga i gael cefnogaeth a help i ariannu datblygiad?

Mae’r Document Foundation yn awgrymu bod pob defnyddiwr LibreOffice ar raddfa fawr yn defnyddio datblygwyr ardystiedig naill ai’n uniongyrchol neu drwy ddarparwr masnachol sy’n eu cyflogi. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer LibreOffice Online lle mae eich busnes yn chwarae rhan bwysig yn talu am ddatblygiad pellach y feddalwedd.

Peidiwch â cheisio defnyddio LibreOffice Online mewn darpariaeth cyhoeddus nac ar gyfer menter heb gymorth proffesiynol. Fel yr eglurwyd uchod, nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer defnydd cynhyrchu uniongyrchol.

Ga i ddefnyddio hwn am ddim?

Cewch, mae LibreOffice Online yn feddalwedd Cod Agored Am Ddim, dim ond ei lwytho i lawr a’i ddefnyddio, ei archwilio, ei astudio, ei rannu, ei addasu a chyfrannu’n ôl i’r project. Byddwch yn ymwybodol bod y fersiwn rydych chi wedi’i llwytho i lawr wedi’i chynllunio ar gyfer defnydd personol a/neu ddatblygiad felly mae hysbysiad heb ei gefnogi yn cael ei arddangos pan fyddwch chi’n mynd dros 10 dogfen gydamserol ac 20 cysylltiad.

Sut fedra i lunio fersiwn heb y rhybudd hwn?

Mae LibreOffice yn feddalwedd Ffynhonnell Agored Rydd ac mae gennych hawl i wneud unrhyw newidiadau a fynnwch i’r cod ffynhonnell. Mae gan bob fersiwn o LibreOffice Ar-lein dudalen Gymorth/Amdanom gyda hash Git y cod ffynhonnell y mae wedi’i adeiladu ohono a dolen i glonio’r ffynhonnell honno. Cofiwch, os byddwch yn tynnu datganiadau cymorth o’r fath o’r cod, efallai y bydd angen i chi newid enw’r project, yn enwedig os ydych yn bwriadu ei wneud ar gael y tu allan i’ch sefydliad - edrychwch ar ein canllawiau nod masnach. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi’n glir eich bod yn ymrwymo i gefnogi’r fersiwn rydych wedi’i chreu.

Ei gael

Er mai dim ond ffeiliau ffynhonnell sy’n cael eu darparu gan TDF, mae ffeiliau deuaidd ar gael o lawer o ffynonellau eraill gan gynnwys:

Mae TDF yn darparu rhyddhadau cod ffynhonnell LibreOffice Online.