Cwestiynau Cyffredin
Nodyn: Mae’r dudalen hon ar gyfer cwestiynau cyffredinol ynglŷn â llwytho LibreOffice i lawr, ei drwydded, a sut mae’r project yn gweithredu. Am gymorth technegol gyda’r feddalwedd ei hun, gweler ein Cwestiynau Cyffredin ar y wici, a hefyd ein gwefan Gofyn i LibreOffice.
Rwy wedi rhoi, ond dal ddim yn gallu llwytho LibreOffice i lawr - o le gai e?
Yn gyntaf, diolch am eich rhodd! Rydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Mae rhoddion yn gwbl ddewisol, a gallwch chi bob amser lwytho LibreOffice am ddim. O’r dudalen llwytho i lawr, ar ôl clicio’r botwm “Llwytho i lawr” fe welwch ddolen ar y dudalen ganlynol, uwchben y neges rhodd, fel hyn:
Cliciwch ar y ddolen i ddechrau lwytho LibreOffice i lawr. Os oes gennych broblemau o hyd, gwiriwch nad yw eich porwr, system weithredu neu feddalwedd diogelwch yn atal y llwytho rhag digwydd. Gallwch hefyd gysylltu â download@libreoffice.org gyda fersiwn eich system weithredu, a byddwn yn anfon dolen uniongyrchol atoch.
Pam mae LibreOffice am ddim? Oes yna broblem?
Mae LibreOffice yn feddalwedd cod agored ac am ddim, a ddatblygwyd gan gymuned fyd-eang. Gallwch ddefnyddio, rhannu ac addasu’r feddalwedd yn unol â Trwydded Gyhoeddus Mozilla 2.0. Mae LibreOffice yn rhad ac am ddim oherwydd bod y gymuned o’i gwmpas yn poeni am safonau agored a chwalu rhaniadau digidol - gan greu byd lle mae gan bawb fynediad at offer cod agored pwerus.
Ydw i’n gallu defnyddio LibreOffice yn fy musnes?
Ydych - ar un cyfrifiadur yn eich swyddfa gartref, neu 10,000+ o gyfrifiaduron mewn menter, gallwch ddefnyddio LibreOffice heb dalu unrhyw ffioedd trwydded. Ar gyfer defnyddiau mwy, rydym yn argymell yn gryf ystyried opsiynau cymorth proffesiynol, sy’n cael ei ddarparu gan ddatblygwyr, ymgynghorwyr a hyfforddwyr proffesiynol LibreOffice.
Pam nad yw LibreOffice yn cynnwys rhaglen e-bost?
Ar hyn o bryd, does dim cynlluniau i ddatblygu rhaglen e-bost y tu mewn i LibreOffice, gan fod cleientiaid e-bost meddalwedd cod agored a rhad ac am ddim rhagorol eisoes ar gael. Rydym yn hytrach yn canolbwyntio ar LibreOffice, ein cynnyrch craidd, ac yn ymdrechu i wneud integreiddio ag atebion presennol yn well.
Fyddwch chi’n ychwanegu nodwedd benodol?
Gan fod LibreOffice yn god agored ac wedi’i ddatblygu gan gymuned, mae datblygwyr yn dewis pa nodweddion maen nhw am eu hychwanegu, yn seiliedig ar eu hanghenion eu hunain (neu anghenion cwsmeriaid). Os ydych chi wir eisiau gweld nodwedd newydd benodol, ystyriwch ariannu datblygwyr ardystiedig i weithredu’r nodwedd honno. Fel arall, os oes gennych chi rywfaint o allu technegol, gallwch chi gymryd rhan a gweithio ar nodweddion newydd gyda gweddill y gymuned. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn edrych ymlaen at eich help!
Sut fedra i roi gwybod am broblem gyda LibreOffice?
Os ydych chi wedi darganfod gwall yn LibreOffice, ac eisiau ei adrodd i’n cymuned sicrhau ansawdd (SA), ewch i olrheinydd gwallau. Wrth gyflwyno adroddiad, gwiriwch a yw’n effeithio ar y fersiwn ddiweddaraf o’r feddalwedd, ac os felly, rhowch lawer o fanylion yn eich adroddiad - fersiwn y system weithredu, y camau union i atgynhyrchu’r broblem, a lluniau sgrin os oes angen. Diolch!
Rwy i wedi gweld LibreOffice ar werth mewn siop neu ar y rhyngrwyd - ydy e’n dod gennych chi?
Mwy na thebyg na. Mae LibreOffice yn feddalwedd cod agored ac am ddim ac mae modd ei hailddosbarthu gan bobl eraill, yn amodol ar y drwydded. Ond os ydych chi eisiau’r fersiwn swyddogol gan The Document Foundation, dylech chi bob amser ei lwytho i lawr o’n gwefan. Sylwch fod rhai o’n Datblygwyr Ardystiedig yn darparu eu fersiynau eu hunain o LibreOffice gydag opsiynau cymorth hirdymor.