Cymorth Cymunedol
Cwestiynau, atebion, dogfennaeth, trafodaethau a mwy.
Dyw LibreOffice Community ddim yn cynnwys unrhyw gymorth technegol gan The Document Foundation, y sefydliad dim-er-elw y tu ôl i’r feddalwedd. Dylai busnesau, sefydliadau a defnyddwyr terfynol sydd angen contractau cymorth pwrpasol ymweld â’n tudalen Cymorth Proffesiynol. Fodd bynnag, dyma rai adnoddau i gael help gan ddefnyddwyr LibreOffice eraill…
Ask.LibreOffice
Ewch i Ask.LibreOffice os oes gennych gwestiwn am LibreOffice. Cael ateb yma mewn sawl iaith wahanol! Gallwch hefyd ymuno â’r sianel cymorth defnyddiwr IRC am sgwrs fyw.
Dogfennaeth
Darllenwch ddogfennaeth a chanllawiau ar-lein, llwythwch nhw i lawr neu archebu gopi printiedig.
Help ar-lein LibreOffice
Porwch y Cymorth LibreOffice ar-lein: dewiswch rhwng Cymorth Writer, Cymorth Calc, Cymorth Argraff, neu themâu eraill sy’n gysylltiedig â LibreOffice. Mae modd cyrchu’r tudalennau hyn hefyd o’r ap trwy bwyso F1 neu ddefnyddio’r botymau “Help”.
Y Wici
Mae modd cael llawer o wybodaeth ar y wiki, gan gynnwys casgliad o Cwestiynau Cyffredin a dogfennaeth fanwl o swyddogaethau Calc.
Rhestrau e-bost
Mae gennym lawer o [mailing lists] byd-eang a rhanbarthol(https://wiki.documentfoundation.org/Mailing_Lists), ar gyfer cyhoeddiadau, trafodaeth, dylunio a phynciau eraill.
Rhoi gwybod am wall neu ffeilio cais am welliant
Cael problem benodol, fel damwain meddalwedd neu ymddygiad araf yn y fersiwn ddiweddaraf? Helpwch ni trwy adrodd amdano. Meddyliwch am nodwedd newydd a fyddai’n gwneud LibreOffice hyd yn oed yn well nag y mae heddiw? Rhowch wybod am wallau a cheisiadau gwella i’n datblygwyr.
Mae modd adrodd am faterion sy’n ymwneud â gwefannau a gwasanaethau gwe ar Redmine.
Mae LibreOffice yn gymuned – ymunwch â ni!
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i wall ar ôl iddo gael ei ffeilio? Eisiau dysgu sgiliau newydd, fel sut i olrhain yr union ymrwymiad a dorrodd eich hoff nodwedd? Mae’r Tîm QA bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n rhengoedd. Dewch o hyd i ni yn y sianel QA IRC. Gwiriwch hefyd y Rhestr Bostio QA a y Wici. Nid oes angen unrhyw brofiad!
Eisiau gwella’r ddogfennaeth? Ymunwch â’r Tîm Dogfennaeth!
Os ydych chi’n godiwr ac eisiau cymryd rhan mewn datblygiad, ymunwch â’r sianel #libreoffice-dev.