Gofynion System
Microsoft Windows
Mae’r rhagofynion meddalwedd a chaledwedd ar gyfer gosod LibreOffice ar system Windows fel a ganlyn:
- Windows Server 2012 trwy 2022, Windows 10 neu 11 (mae LibreOffice yn cael ei gefnogi’n llawn ar Windows 11)
- PC sy’n gydnaws â Pentium
- 256 MB RAM (argymhell 512 MB RAM)
- Hyd at 1.5 GB o le ar y ddisg galed ar gael
- Cydraniad 1280x800, gydag o leiaf 256 lliw
Mae angen hawliau gweinyddwr ar gyfer y broses gosod. Mae’n arfer gorau ac sy’n cael ei argymell yw i wneud copi wrth gefn o’ch system a’ch data cyn i chi dynnu neu osod meddalwedd.
Ar gyfer rhai nodweddion o’r feddalwedd - ond nid y rhan fwyaf - mae angen Java. Mae Java yn arbennig o ofynnol ar gyfer Base.
Apple macOS
Mae’r rhagofynion meddalwedd a chaledwedd ar gyfer gosod ar gyfrifiadur Apple macOS fel a ganlyn:
- macOS 11 neu fwy newydd
- Prosesydd silicon Intel neu Apple
- 512 MB RAM
- Hyd at 800 MB o le ar y ddisg galed
- Dyfais graffig 1280x800 gyda 256 lliw
Mae’n arfer gorau ac sy’n cael ei argymell yw i wneud copi wrth gefn o’ch system a’ch data cyn i chi dynnu neu osod meddalwedd.
Nodiadau:
- Ar gyfer nodweddion penodol o’r feddalwedd - ond nid y rhan fwyaf - mae angen Java. Mae Java yn arbennig o ofynnol ar gyfer Base.
- Oherwydd [mater] (https://bugs.documentfoundation.org/show_bug.cgi?id=101956), mae yna gyfyngiadau canlynol gyda Java: ar macOS 10.10 a diweddarach, nid yw JRE yn cael ei ddarganfod, mae JDK yn ofynnol
- Gall LibreOffice 4.3 barhau i redeg ar OS X 10.6+, ond deallwch fod y gefnogaeth hon wedi dod i ben pan ymddeolodd 4.3 [ar Fai 27, 2015] (https://wiki.documentfoundation.org/Special:MyLanguage/ReleasePlan#4.3_release).
GNU/Linux
Fel rheol gyffredinol, rydym yn argymell i chi osod LibreOffice trwy’r dulliau gosod sy’n cael eu hargymell gan eich dosbarthiad Linux penodol (fel Ubuntu Software Center, yn achos Ubuntu Linux). Mae hyn oherwydd mai fel arfer dyma’r ffordd symlaf o gael gosodiad sydd wedi’i integreiddio orau i’ch system. Yn wir, efallai y bydd LibreOffice eisoes wedi’i osod yn barod pan fyddwch chi’n gosod eich system weithredu Linux yn wreiddiol.
Mae gosodwyr LibreOffice sydd wedi’u darparu gan y gymuned ar gael ar gyfer defnyddwyr sydd ag anghenion arbennig, ac ar gyfer achosion y tu allan i’r cyffredin.
Mae’r rhagofynion meddalwedd a chaledwedd ar gyfer gosod ar Linux fel a ganlyn:
- Fersiwn cnewyllyn Linux 4.18 neu uwch
- glibc2 fersiwn 2.27 neu uwch
- Ar gyfer fersiynnau TDF: [x86-64-v2-level] (https://en.wikipedia.org/wiki/X86-64#Microarchitecture_levels) CPU
- 256 MB RAM (argymhell 512 MB RAM)
- Hyd at 1.55 GB o le ar y ddisg galed ar gael
- Cydraniad 1280x800, gydag o leiaf 256 lliw
- GNOME gyda’r pecyn ATK (angenrheidiol er mwyn cynnal offer technoleg gynorthwyol [AT]), neu GUI cydnaws arall (fel KDE, ymhlith eraill)
Ar gyfer rhai nodweddion o’r feddalwedd - ond nid y rhan fwyaf - mae angen Java. Mae Java yn arbennig o ofynnol ar gyfer Base.
Mae’n arfer gorau ac sy’n cael ei argymell yw i wneud copi wrth gefn o’ch system a’ch data cyn i chi dynnu neu osod meddalwedd.
Android/Linux
Gweler LibreOffice Viewer ar gyfer Android.
Systemau gweithredu eraill
Mae fersiynnau o LibreOffice sy’n cael eu darparu gan y gymuned ar gael ar gyfer systemau gweithredu eraill fel y BSDs. Am ragor o wybodaeth, gweler Gofynion System estynedig ar y Wiki TDF.