Ymunwch â ni
Croeso! Mae LibreOffice wedi’i ddatblygu gan gymuned gyfeillgar, sy’n cynnwys cannoedd o gyfranwyr ledled y byd. Mae’n feddalwedd cod agored ac am ddim, felly gall unrhyw un astudio sut mae’n gweithio ac ychwanegu gwelliannau. Ymunwch â ni heddiw a’n helpu i’w wneud yn well fyth!
Cyn dechrau cyfrannu, rydym yn argymell trefnu cyfweliad cychwynnol gyda mentor TDF Ilmari Lauhakangas.
Eisoes yn gyfrannwr? Ymunwch â TDF!
Sylwch y gall aelodau gyflwyno cais am grant i ariannu eu project.
Tasgau maint bychain
Oes gennych chi ddeg neu ddau ddeg munud sbâr, ac eisiau rhoi cymorth? Edrychwch ar y tasgau cyflym hyn:
- Helpwch eraill trwy ateb cwestiynau ar Ask LibreOffice
- Porwch ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin, a gwiriwch eu bod yn gyfredol (neu eu cyfieithu)
- Diweddaru neu wella ein deunyddiau marchnata a taflenni
- Gwiriwch a chadarnhau adroddiadau wall newydd i helpu ein tîm QA
Dal ddim yn siŵr? Atebwch ychydig o gwestiynau i ddarganfod beth allwch chi ei wneud ar gyfer LibreOffice.
Drwy glicio’r botwm isod rydych chi’n cytuno i weld cynnwys o wefan trydydd parti (YouTube) ac i’ch data personol gael ei drosglwyddo a’i brosesu fel sy’n cael ei nodir ym mholisi preifatrwydd YouTube.
Timau
Datblygu
Codio – Nodweddion newydd – Trwsio gwallau
- Cliciwch yma i gael y cod, siarad â datblygwyr, a dechrau gweithio ar Haciau Hawdd

Dogfennaeth
Canllawiau – Cymorth ar-lein – Cwestiynau Cyffredin
- Darllenwch ein tudalen dogfennaeth ar sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith dogfennu (e.e. cymorth ar-lein, neu lawlyfrau Calc)

Seilwaith
Gwasanaethau – Offer – Caledwedd
Mae seilwaith LibreOffice - fel y wefan - yn cael ei ddefnyddio gan filiynau o bobl bob blwyddyn. Ymunwch â’n cymuned a chael profiad gydag is-ddeiliad ar raddfa fawr!
- Darllenwch ein tudalen seilwaith am yr offer rydyn ni’n eu defnyddio a sut i gymryd rhan

Dyluniad
Rhyngwyneb defnyddiwr - Profiad y defnyddiwr - Brandio
- Cyfrannu at ddyluniad LibreOffice gyda’ch gwaith celf a’ch arbenigedd profiad defnyddiwr

Cyfieithiadau a lleoleiddio
100+ o ieithoedd – A mwy i ddod
- Cliciwch yma i ddysgu am ein hoffer a’n cymunedau ieithoedd brodorol

Sicrhau ansawdd
Trwsio Gwallau – Triaging – Bibisecting
- Cofrestrwch i Bugzilla, ein teclyn olrhain wallau
- Gosod y fersiwn ddiweddaraf o LibreOffice
- Dechrau adroddiadau gwall cadarnhau neu ail-brofi
- Ymunwch â #libreoffice-qa ar Libera Chat os oes angen help arnoch

Marchnata
Lledu’r gair – Mynychu digwyddiadau – Creu deunyddiau
- Ymunwch â’n rhestr postio (anfonwch neges wag a dilynwch y cyfarwyddiadau)
- Cyflwynwch eich hun (ble rydych chi wedi’ch lleoli a sut yr hoffech chi helpu)
- Bydd aelod o’r tîm yn rhoi syniadau i chi am bethau i weithio arnynt
