LibreOffice Technology

Mae Technoleg LibreOffice yn ganlyniad deng mlynedd o weithgarwch dwys ar god agored y feddalwedd, wedi’i gydlynu gan y [Pwyllgor Llywio Peirianneg] (https://www.documentfoundation.org/engineering-sc/) sy’n cael ei gynnal gan ddatblygwyr, peirianwyr meddalwedd, arbenigwyr diogelwch, ac arbenigwyr rhyngwyneb a phrofiad defnyddiwr o gysylltiadau eang.

Nod y broses esblygiadol hon oedd creu platfform meddalwedd sengl ar gyfer cynhyrchiant unigol ar bwrdd gwaith, symudol a’r cwmwl: yr unig ddull sy’n gallu cynnig i ddefnyddwyr y nodweddion rhyngweithrededd sy’n galluogi rhannu tryloyw o’r holl gynnwys, ac annibyniaeth oddi wrth werthwyr masnachol unigol a strategaethau cloi gwerthwyr.

! Ffeithlun sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng LibreOffice ac offer swyddfa perchnogol neu graidd agored ynghylch perthynas llwyfannau, fformatau dogfennau a pheiriannau meddalwedd

Heddiw, mae teulu mawr o gynnyrch yn seiliedig ar Technoleg LibreOffice, ar gyfer y bwrdd gwaith (gyda fersiynau cymunedol a [wedi’u optimeiddio gan fenter] (/for-business.md)), ar gyfer y cwmwl, ar gyfer Android ac iOS, ac ar gyfer Chrome OS. Mae ** Technoleg LibreOffice ** yn cael ei ddefnyddio hefyd o fewn cynnyrch mwy i drosi a phrosesu fformatau dogfennau. Mae’r cynnyrch hyn yn cael eu rhyddhau gan wahanol sefydliadau ac mae ganddyn nhw enwau brand gwahanol, ond maen nhw’n rhannu’r un peiriant cyffredin i gynnig yr un manteision unigryw i ddefnyddwyr o ran rhyngweithrededd, gwytnwch, cadernid a diogelwch.

Am fwy o fanylion, gw. papur gwyn.