Nodiadau Rhyddhau

LibreOffice 26.8.0 (26 Awst 2026) - Cangen Ddiweddaraf

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o LibreOffice, sy’n cael ei argymell ar gyfer selogion technoleg, yn cynnwys nodweddion newydd a gwelliannau i’r rhaglen. Gall y fersiwn hon gynnwys rhai gwallau blin a fydd yn cael eu trwsio yn y fersiynau trwsio gwallau nesaf. Mae modd cael mynediad at nodiadau rhyddhau manwl o’r ddolen isod.

LibreOffice 26.8.0 yw'r fersiwn gyntaf o'r llinell ddiweddaraf. Am restr o wallau wedi'u trwsio o'i gymharu â'r fersiwn blaenorol ewch i'r tudalennau pwrpasol: RC1 / RC2 / RC3.

Cliciwch yma i ddysgu am y nodweddion newydd yn LibreOffice 26.8

LibreOffice 26.2.6 (24 Medi 2026) - Cangen Flaenorol

Fersiwn aeddfed LibreOffice, sy’n cael ei argymell ar gyfer mentrau. O’r herwydd, mae’r fersiwn yn sefydlog ac yn addas i bob defnyddiwr. Mae modd cael mynediad at nodiadau rhyddhau manwl o’r ddolen isod.

LibreOffice 26.2.6 yw'r chweched fersiwn cywiro gwallau o'r llinell flaenorol. Am restr o wallau wedi'u trwsio o'i gymharu â'r fersiwn blaenorol ewch i'r tudalennau pwrpasol: RC1 / RC2 / RC3.

Cliciwch yma i ddysgu am y nodweddion newydd yn LibreOffice 26.2

Hen fersiynau

Mae hen fersiynau o LibreOffice sydd ddim bellach yn cael eu cefnogi ar gael o ein harchif llwytho i lawr.