LibreOffice mewn busnes
Mae LibreOffice gan The Document Foundation yn wych ar gyfer defnyddwyr cartref a swyddfeydd bach. Nid yw TDF yn darparu cymorth technegol ar gyfer y feddalwedd; gall defnyddwyr gael cymorth gan eraill ar ein rhestrau postio a Gofyn i LibreOffice.
Mae LibreOffice hefyd yn wych ar gyfer ysgolion, sefydliadau addysgol ac ymchwil, a sefydliadau mawr; yn yr achosion hyn, rydym yn argymell yn gryf defnyddio fersiynau LibreOffice Enterprise gan un o’n partneriaid ecosystem. Yn y modd hwnnw, gallwch gael Cytundebau Lefel Gwasanaeth hirdymor (SLA), cymorth personol, cymorth technegol, a nodweddion newydd arferol. Ar ben hynny, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan bartneriaid ecosystem yn llifo yn ôl i broject LibreOffice, o fudd i’r gymuned ehangach o ddefnyddwyr LibreOffice.
Dyw LibreOffice Enterprise ddim yn cyfeirio at un cynnyrch, ond teulu o gynhyrchion wedi’u hadeiladu ar LibreOffice gyda’r manteision ychwanegol sy’n cael ei grybwyll uchod.
Mudiadau a hyfforddiant
The Document Foundation, the non-profit entity behind LibreOffice, offers an extensive certification program. Certified professionals are able to provide value-added professional services to grow the LibreOffice ecosystem, and have the objective of extending the reach of the community to the corporate world, by offering CIOs and IT managers a recognition in line with proprietary offerings. Similarly, LibreOffice Certified Migration Consultants are individuals who have proven their ability in planning and managing a LibreOffice deployment either in a public administration or in an enterprise. They are able to implement the Migration Protocol provided by The Document Foundation (or a similar migration process).
LibreOffice - y dewis iawn ar gyfer eich busnes
Gyda’i sylfaen god aeddfed, set nodweddion gyfoethog, cefnogaeth gref ar gyfer safonau agored, cyfatebiaeth rhagorol ac opsiynau cymorth hirdymor gan bartneriaid ardystiedig, mae fersiynau LibreOffice Enterprise o’r gyfres yn atebion delfrydol i fusnesau sydd am adennill rheolaeth o’u data a rhyddhau eu hunain rhag cloi gwerthwr.