Draw

Mae Draw yn caniatáu chi gynhyrchu unrhyw beth o fraslun bras i gynllun cyflym ac mae'n cynnig modd i gyfathrebu gyda graffigau a diagramau. Gydag uchafswm maint tudalen o 300cm wrth 300cm, mae Draw yn becyn ardderchog ar gyfer cynhyrchu lluniadu technegol, posteri cyffredinol, ac ati. Mae Draw yn caniatáu i chi drin gwrthrychau graffigol, eu grwpio, eu tocio, defnyddio gwrthrychau mewn 3D a llawer mwy.

Cynlluniwch siartiau llif pwerus a hawdd eu deall gyda Draw. Mae cysylltwyr clyfar yn ei gwneud yn hawdd i chi adeiladu siartiau llif, siartiau cyrff a diagramau rhwydweithiau a llawer mwy, hyd yn oed os nad ydych yn artist wrth reddf. Mae modd i chi ddiffinio eich "pwyntiau gludo" i'r cysylltwyr ludo iddynt, ar gyfer eu gosod yn fanwl ac maen nhw'n hawdd eu hailadrodd. Mae llinellau dimensiwn yn cyfrifo'n awtomatig ac yn dangos dimensiynau llinellol wrth i chi luniadu.

Mae Draw yn eich galluogi i drin lluniau a delweddau mewn ffyrdd amrywiol; gallwch hyd yn oed greu albwm lluniau cyfan gyda'r rhaglen. Mae ei beiriant pwerus yn caniatáu trosi delweddau i ac o ystod eang o fformatau delwedd a dogfen.