Calc

Calc yw'r daenlen ddelfrydol. Mae defnyddwyr newydd yn ei chael yn hawdd ei dysgu a'i thrin. Bydd defnyddwyr proffesiynol yn gwerthfawrogi'r ystod eang o swyddogaethau uwch. Mae'r Dewiniaid yn gallu yn eich arwain wrth ddewis a defnyddio ystod uwch cynhwysfawr o swyddogaethau taenlen. Neu gallwch lwytho templed i lawr o storfa templedi LibreOffice, gan gynnig atebion parod ar gyfer gweithio gyda thaenlenni.

Mae arddulliau a fformatio uniongyrchol yn ei gwneud yn hawdd gosod dewisiadau fformatio celloedd hyblyg, gan gynnwys cynnwys sy'n troi'n rhwydd, templedi, cefndiroedd, borderi a llawer mwy. Byddwch y dod yn arbenigwr taenlen, gan ddefnyddio templedi gyda swyddogaethau parod, fel bod modd ail ddefnyddio dalen parod a chanolbwyntio ar y gwaith mewn llaw. *

Mae'r Rheolwr Senario'n caniatáu dadansoddiad "beth os ..." rhwydd. Er enghraifft, gallwch gymharu elw ar gyfer rhagolygon gwerthiant ar sail uchel, canolig ac isel.

Mae cydran datrysydd Calc yn caniatáu i chi ddatrys anawsterau optimeiddio anawsterau lle mae'n rhaid cyfrifo gwerth gorau cell taenlen benodol ar sail cyfyngiadau celloedd eraill.

Mae technoleg DataPeilot uwch yn ei gwneud yn hawdd i dynnu data craidd o gronfeydd data corfforaethol ac yn eu croes dablu, crynhoi a throsi i wybodaeth ystyrlon. Mae modd integreiddio ffrydiau gwybodaeth byw i daenlenni ac adroddiadau a'u ffactora wrth gyfrifo.

Mae modd cydweithio ar daenlenni, diolch i gefnogaeth i ddefnyddwyr lluosog yn Calc. Gallwch rannu taenlen, fel bod eraill yn gallu ychwanegu eu data iddi'n rhwydd. Gall perchennog y daenlen gyfuno'r data newydd yn rhwydd, gydag ychydig o gliciau. Mae'r nodwedd cydweithio hon yn gymorth i osgoi gwrthdaro golygu.

Tra fo Calc yn gallu cadw taenlen yn ei ffurf gynefin, OpenDocument Format (.ods), mae modd i chi hefyd agor taenlenni Microsoft Excel, a chadw eich gwaith yn fformat Excel ar gyfer rheini sydd dal yn gaeth i gynnyrch Microsoft. Os taw dim ond ar gyfer gwneud eich data'n ddarllenadwy, ond ar ystod eang o ddyfeisiau a phlatfformau, gallwch allforio i'r Portable Document Format (.pdf). Mae Calc yn gallu darllen ffeiliau .xlsx wedi eu creu gan Microsoft Office 2007 ar gyfer Windows neu Microsoft Office 2008 ar gyfer Mac OS X.