OS X

Gwiriwch ofynion y system cyn gosod LibreOffice ar y Mac.

  • Llwythwch y ffeil .DMG i lawr o'n tudalen Llwytho i Lawr
  • Agorwch y ffeil .DMG drwy roi clic dwbl iddi.
  • Bydd ffenestr osod yn agor: llusgwch a gollwng eicon LibreOffice icon i'r ffolder Applications. Efallai bydd angen i chi roi eich cyfrinair Gweinyddwr.
  • Bydd y gosod yn mynd yn ei flaen gyda bar cynnydd yn dangos pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau.
  • Os bydd angen, gallwch llwytho i lawr a gosod y pecyn(nau) iaith o'ch dewis a'r ffeiliau Cymorth drwy llwytho i lawr y ffeil .DMG o'ch dewis. Mae'r camau gosod yr un peth a'r rhai sy'n cael eu disgrifio uchod ond rhaid eich bod wedi llwytho'r prif ffeil LibreOffice yn gyntaf.
  • Gwirydd Sillafu Cymraeg - Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer LibreOffice.

Defnyddwyr Mac OSX 10.8 a'r diweddarach: Os ydych yn rhedeg MacOS X 10.8 (Mountain Lion), efallai y cewch anhawster gyda Gatekeeper newydd, Apple. Os felly, efallai y bydd yr erthygl hon yn ddefnyddiol. Ateb haws yw i osod y feddalwedd a'i osod y tro cyntaf, rhoi clic de (control-clic) i'r eicon LibreOffice.app a dewis Agor o'r dewislen cyd-destun. Bydd yn gofyn a ydych wir eisiau cychwyn y rhaglen, cadarnhewch i'w chychwyn.