Linux

Fel rheol gyffredinol, argymhellwn eich bod yn gosod LibreOffice drwy'r dull y mae eich dosbarthiad penodol o Linux (megis Canolfan Feddalwedd Ubuntu, yn Ubuntu Linux) yn ei argymell. Dyma'r ffordd hawsaf i wneud gosodiad sydd wedi ei lunio'n benodol ar gyfer eich system. Mae'n bosib iawn y bydd LibreOffice wedi cael ei osod yn barod wrth i chi osod system weithredu Linux ar eich cyfrifiadur. Mae manylion ar gael ar y wiki.

Bydd modd i chi lwytho i lawr pecynnau LibreOffice penodol ar gyfer safon pecynnu eich system (rpm neu deb), neu hyd yn oed cael archif tar.gz ar gyfer LibreOffice. Yna bydd angen i chi osod y pecynnau, yn gyntaf y prif becyn LibreOffice ac yna cydrannau eraill megis pecynnau iaith a chymorth.

Gwirydd Sillafu Cymraeg

Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer LibreOffice.