Cefnogaeth gan y Gymuned

Mae LibreOffice yn cael ei greu a'i gynnal gan ein cymuned. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch ganfod a defnyddio'r gefnogaeth gan ein cymuned. Os ydych yn chwilio am gefnogaeth broffesiynol ewch i'n tudalennau penodol. Ar hyn o bryd does dim cefnogaeth i'w gael gan LibreOffice drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Dogfennau: Mae gennym gasgliad llawn o ddogfennau yn Saesneg. Hefyd, mae modd i chi ddefnyddio'r cymorth yn Saesneg sydd i'w gael o fewn LibreOffice, (cyn belled a'i fod wedi ei osod gyda LibreOffice) drwy bwyso F1 ar eich bysellfwrdd.


  • Rhestrau E-bostio: Ein cyfeiriad rhestr e-bostio yw'n prif fodd i ddefnyddwyr LibreOffice sydd angen cymorth i ddatrys problem: users@global.libreoffice.org. Rhaid i chi danysgrifio i'r rhestr cyn gofyn cwestiwn. I wneud hynny, anfonwch neges wag (dim llinell pwnc, dim neges) at users+subscribe@global.libreoffice.org. Bydd cyfarwyddiadau'n cael eu hanfon nôl atoch yn syth (chwiliwch am e-byst newydd ac yn eich ffolder sbam, rhag ofn). Er mwyn dad-danysgrifio anfonwch neges wag at users+unsubscribe@global.libreoffice.org. Ar y cyfan mae'r rhain ar gael yn Saesneg, does dim rhestrau Cymraeg ar hyn o bryd. Mae gan rai projectau Iaith Gynhenid eu rhestrau e-bostio eu hunain. Gw. yma.

  • Ask.LibreOffice : Mae gwefan Ask LibreOffice yn darparu gofod lle fedrwch ofyn  (ac ateb!) cwestiynau am LibreOffice. Mae AskLibO yn wefan Cwestiwn ac Ateb modern ac nid yn fforwm cyffredin. Ar hyn o bryd Saesneg yw unig iaith y rhyngwyneb, ond rydym yn gweithio gyda datblygwyr Askbot er mwyn gallu lleoleiddio'r rhyngwyneb, y cwestiynau a'r atebion.

  • Y Wiki: Mae bron popeth ar ein wiki; mae hefyd yn fan lle mae llawer o waith yn digwydd gan ein timau amrywiol. Er nad yw mor drefnus â'n dogfennau mae yna lawer o wybodaeth ar gael yno.

  • Nabble: Nid yw Nabble yn fforwm ynddo'i hun ond yn ffordd brafiach o ddarllen a defnyddio rhestrau e-bostio defnyddwyr fel petaen nhw'n fforwm. Ewch i'n porth Nabble.